Coed Lletywalter
Rhan o’r ACA
Mae’r coetir hwn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae’n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionnydd. Mae coed derw dan eu cotiau o fwsoglau a chennau yn gysgod i garped o glychau’r gog, llus, gwyddfid, suran y coed a blodau’r gwynt yn y gwanwyn. Mae cnocellod y coed wedi manteisio i’r eithaf ar y coed marw niferus sy’n dal i sefyll yma.
Mae Coed Lletywalter yn goetir llydanddail sylweddol a saif o fewn rhwydwaith helaeth o goedydd yn y cymoedd sy’n ymestyn o Lanbedr i Gwm Bychan. Derw digoes yw’r rhywogaeth fwyaf cyffredin yn y canopi, ynghyd â bedw a rhywfaint o sycamorwydd. Bu ffawydd, coeden nas ystyrir yn frodorol i Ogledd Cymru, yn doreithiog yn rhannau o’r goedwig hon, er i lawer ohono gael ei dorri yn ystod gwaith teneuo yn y 2000au. Mae ynn yn bresennol ar briddoedd mwynach a gwerni a helyg mewn mannau gwlypach. Mae absenoldeb hen goed bron yn gyfan gwbl yn awgrymu torri detholus sylweddol, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, efallai.

Mae’r goedwig yn amrywio’n arw o ran ei thopograffeg, gyda chreigiau, ponciau creigiog, nentydd, llennyrch bychain a llethrau gyda chlogfeini ar eu hyd. Mae mwsoglau a llysiau’r afu yn garped ar y rhannau o’r goedwig lle mae clogfeini a brigiadau’n niferus. Mae llwyni llus wedi datblygu mewn mannau lle ceir rhedyn ungoes yn rhannau mwy agored y goedwig. Mae fflora llawr y goedwig yn arwydd mai priddoedd asidig sydd yma’n bennaf, ond mae cyfoethogiad mewn rhai lleoedd yn cynyddu’r amrywiaeth o blanhigion blodeuol i gynnwys blodau’r gwynt, breichwellt y coed, bresych y cŵn ac eirinllys. Mae mieri’n doreithiog yma, yn enwedig mewn mannau lle mae ffawydd wedi’u torri. Mae rhannau gwlypach yn cynnig amrywiaeth fwy helaeth gyda rhywogaethau fel eglyn cyferbynddail a’r hesg rhafunog mawr.

Mae llyn bychan yn cynnal amrywiaeth o blanhigion corstir gyda chlystyrau o hesg gylfinfain, clwbfrwyn cyffredin, pumnalen gors. Braidd yn annatblygedig yw fflora cen epiffytig y safle, fodd bynnag mae poblogaeth o labed yr ysgyfaint yn tyfu o gwmpas tyddyn anghyfannedd hanesyddol Cwrt. Nid oes pori yn y coed ac mae hyn wedi caniatáu aildyfiant coed a llwyni ifanc, yn enwedig celyn, sy’n doreithiog yn yr isdyfiant yn lleol. Mewn blynyddoedd diweddar, mae’r coetir wedi ymledu i feysydd a arferai fod yn ddolydd ar hanner gogleddol y safle, ac mae tystiolaeth o brosesau tebyg yn digwydd ar gaeau rhedyn cyfagos nad ydynt dan berchnogaeth Coed Cadw. Mae’r coed yn cynnal poblogaeth fridio o adar sy’n nodweddiadol o goetiroedd derw.

Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr