Rhywogaethau Ymledol Estron

English

Rhywogaethau Ymledol Estron

Mae’r term rhywogaeth ymledol estron (invasive alien species/IAS) yn cyfeirio at rywogaethau sydd wedi’u cyflwyno, naill ai’n fwriadol neu’n anfwriadol, i ardaloedd y tu hwnt i’w cynefin naturiol. Mewn rhai achosion, gellir ystyried rhywogaethau’n frodorol i un rhan o wlad neu fath penodol o gynefin, ond yn estron i un arall. Yn wahanol i IAS, diffinnir rhywogaeth frodorol fel un sy’n tyfu’n naturiol mewn ardal ac sydd, yn gyffredinol, yn cyfannu bodolaeth rhywogaethau brodorol eraill o fewn y cynefin / bïom hwnnw gan eu bod wedi byw a datblygu gyda’i gilydd dros filoedd o flynyddoedd.

Ni ystyrir pob rhywogaeth estron yn ymledol, ond gall y rhai sydd yn ymledol gael effaith niweidiol iawn ar yr amgylcheddau y maen nhw’n eu cytrefu. Er enghraifft, gallant orchfygu cynefinoedd, gan gau’r holl rywogaethau eraill allan. Gan nad oes planhigion neu anifeiliaid eraill sy’n gysylltiedig â nhw yn eu hamgylcheddau newydd, maent yn methu cyfannu’r berthynas gyd-ddibynnol a’r prosesau naturiol sydd wedi datblygu dros filoedd o flynyddoedd.

Rhododendron

Edrych i’r dyfodol

Mae eisoes tiroedd ffrwythlon, yn goedwigoedd masnachol ac yn dir pori, sydd wedi’i gefnu arno i bob pwrpas gan fod Rhododendron ponticum wedi ymsefydlu mor gadarn yno. Prin yw’r ymdrech a wneir ar hyn o bryd i weithio’r tiroedd hyn oherwydd y costau economaidd sy’n gysylltiedig â rheoli Rhododendron ponticum, ac os na wneir unrhyw ymgais i reoli a chael gwared arno bydd yn parhau i ymledu i’r amgylchedd ehangach. Bydd hyn yn arwain at effeithiau niweidiol llethol ar yr ecoleg, y gwerth cymdeithasol-economaidd a nodweddion esthetig Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru.

Triniaeth


Darllenwch mwy  

Mae’r prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn cymeradwyo dull 3-cham ar gyfer rheoli Rhododendron ponticum, fel a ganlyn:

Cam 1: y cam ymosod

Y cam ymosod yw’r cam drytaf bron bob tro, gan ei fod yn llafurddwys dros ben. Mae dulliau rheoli yn ystod y cam hwn yn amrywio yn ôl ffactorau fel nodweddion y safle, dwysedd y clystyrau, neu ofynion y tirfeddiannwr, ond mae’r dulliau mwyaf arferol yn cynnwys chwistrellu chwynladdwr systemig i mewn i’r coesyn, torri’r planhigyn ac wedyn naill ai ei bentyrru, ei losgi neu ei droi’n naddion, taenu chwynladdwr cymeradwy ar y dail, neu dynnu’r eginblanhigion â llaw.

Chwistrellu’r coesyn yw’r dull cyntaf o’i drin gan amlaf. Yn syml, rydych yn drilio twll i lawr i mewn i’r coesyn gyda dril diwifr cyffredin a’i lenwi â chwynladdwr cymeradwy. Caiff y cemegyn wedyn ei amsugno a’i gludo i weddill y planhigyn, ac o gael ei wneud yn gywir bydd yn lladd y llwyn yn gyfan gwbl. Mae’r dull hwn yn defnyddio llai o chwynladdwr, a gan ei fod yn cael ei chwistrellu’n syth i mewn i’r planhigyn, mae llai o gemegion yn cyrraedd yr amgylchedd ehangach. O gael ei wneud yn iawn, dylai’r dull hwn hefyd olygu na fydd angen triniaethau dilynol gan y bydd yn lladd y planhigyn cyfan. Yr anfantais bosibl i’r dull hwn yw ei fod yn gadael ardaloedd mawr o goed marw yn sefyll, a dylid eu gadael am flwyddyn o leiaf cyn eu tynnu er mwyn cyfyngu aildyfiant. Ar ôl yr amser hwn, gellir torri’r coed marw a’u symud oddi yno er mwyn gwella edrychiad neu hygyrchedd y safle, neu gellir eu gadael i bydru’n naturiol.

Cam 2: y cam dilynol

Mae angen camau dilynol bob amser, ac ymgymerir â hwy ddwy flynedd ar ôl y cam ymosod fel arfer. Hyd yn oed gyda’r gyfradd farwolaeth uchel y dull o chwistrellu’r coesyn, mae siawns o hyd o fethu cyrraedd rhai llwyni neu ganghennau, ac felly mae’n hanfodol cwblhau’r driniaeth cam 2 ar bob safle. Yn yr un modd â’r cam ymosod, bydd y dull a ddefnyddir yn ystod cam 2 yn dibynnu ar nifer a maint yr aildyfiant, ynghyd â nodweddion y safle, ond mae’n arferol iddo gynnwys taenu ar y dail, tynnu o’r gwreiddiau â llaw, ac mewn rhai achosion, gellir chwistrellu mwy i’r coesyn neu dorri a llosgi / torri’n naddion / pentyrru.

Cam 3: Y cam cynnal a chadw

Cyrhaeddir y cam o gynnal a chadw’r safle pan fo Rhododendron ponticum wedi’i leihau i lefelau lle nad yw’n cael effeithiau niweidiol sylweddol ar fuddiannau cadwraeth neu arferion rheoli tir. Fodd bynnag, o gael ei adael heb ei drin ar y pwynt hwn, byddai aildyfiant sylweddol yn digwydd dros y blynyddoedd canlynol. Erbyn y cam hwn, dylai’r holl lwyni aeddfed fod wedi’u trin yn llwyddiannus, a dim mwy nag ambell i eginyn i’w weld ar wasgar o gwmpas safle. Dylai planhigion blodeuol fod yn absennol, neu’n bresennol mewn niferoedd bach iawn. Fodd bynnag, dylid nodi na chyrhaeddir fyth mo’r cam cynnal a chadw os bydd ffynonellau hadau sylweddol yn parhau ar dir cyfagos ac felly dyna mae’n bwysig taclo’r planhigyn ar raddfa tirweddol i sicrhau llwyddiant.

Mae’n hollbwysig bod gwaith yn cael ei gynnal dros gyfnod o 5 mlynedd, gan y gall gymryd hyd at bum mlynedd i fedru gweld planhigion newydd ymddangos o hadau wedi’u lledaenu. Hyd yn oed y tu hwnt i’r cyfnod hwn, dylid parhau i fonitro’r safleoedd a driniwyd i sicrhau nad oes aildyfiant pellach. Dyma pam mae meithrin perthynas waith hirdymor dda gyda thirfeddianwyr yn hanfodol bwysig os ydym am fod yn siŵr o gyrraedd ein nod derfynol o gael gwared ar Rododendron ponticum o Goedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru.

Crib y ceiliog montbretia

Crib-y-ceiliog (Crocosmia x crocosmiliflora)

Mae tuswau’r blodau melyngoch tywyll sy’n ymddangos yn hwyr yn yr haf yn gwneud crib-y-ceiliog yn boblogaidd iawn ymysg garddwyr. Gall dail llyfn, syth, gwyrdd y planhigyn dyfu i fwy na 60cm o uchder, ac fe’i gwelir yn aml ar leiniau ymyl y ffordd a chloddiau, ar hyd pennau clogwyni ac ar gyrion coetiroedd, ac ar dir diffaith lle caiff planhigion gerddi eu taflu.


Darllenwch mwy  

Mae’r hybrid crib-y-ceiliog, sef y brif rywogaeth sydd wedi ymledu i’r gwyllt ar Ynysoedd Prydain, yn hanu o Dde Affrica ac fe’i cyflwynwyd yn gyntaf o Ffrainc yn yr 1880au fel planhigyn i’r ardd. Ers hynny, mae wedi’i sefydlu’n eang yn y gwyllt, yn enwedig mewn ardaloedd gorllewinol. Unwaith y mae wedi ymsefydlu, gall ymledu’n gyflym iawn, sy’n golygu y gall fynd yn drech na fflora brodorol yn sydyn. Er ei fod yn cynhyrchu hadau byw, mae’r rhan fwyaf o atgynhyrchu yn llystyfol, o gormau dan ddaear a gwreiddgyffion ymgripiol hir, a gall hyd yn oed y tameidiau lleiaf o wreiddyn sefydlu clystyrau newydd.

Rhestrir crib-y-ceiliog fel rhywogaeth Atodiad 9 yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sy’n golygu ei bod yn drosedd i blannu’r rhywogaeth hon neu beri mewn unrhyw fodd arall iddi dyfu’n wyllt.

Rheolaeth fecanyddol

Gellir palu’r planhigion allan ond mae’n hanfodol bod holl ddeunydd a chormau’r planhigyn yn cael eu tynnu. Os caiff cormau eu torri neu eu gadael mewn camgymeriad, gallant gynhyrchu planhigion newydd ac, o bosibl, gwaethygu’r broblem.

Gan ei fod wedi’i restru fel rhywogaeth Atodiad 9, mae unrhyw bridd sy’n cynnwys gwastraff planhigyn crib-y-ceiliog yn wastraff a reolir a dylid cael gwared arno mewn safle tirlenwi trwyddedig.

Rheolaeth gemegol

Gellir trin clystyrau’n effeithiol gyda chwynladdwr tra bo’r planhigion wrthi’n tyfu. Wrth drin ardaloedd eang, dylid plannu cymysgedd gwair a phorfa addas i atal daear galed a chytrefu gan rywogaethau dieisiau eraill.

Skunk cabbage pidyn y gog

Pidyn-y-gog (Lysichiton americanus)

Mae’r Lysichiton americanus yn frodorol i rannau gorllewinol o Ogledd America, ac mae sawl enw arno, yn cynnwys pidyn-y-gog Americanaidd, pidyn-y-gog gorllewinol, a phidyn-y-gog melyn. Fel nifer o’n rhywogaethau ymledol estron, cyflwynwyd y planhigyn i Ynysoedd Prydain fel planhigyn cors addurnol, ac mae’n ffynnu mewn pridd llaith ac ar hyd ffosydd. Mae’r planhigyn hwn wedi’i restru yn narpariaethau’r Rheoliad Rhywogaethau Ymledol Estron (2014) ers 2015, fel rhywogaeth ymledol estron a gaiff ei hystyried yn destun pryder i’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r rheoliad yn gosod cyfyngiadau ar gadw, mewnforio, gwerthu, bridio a thyfu unrhyw un o’r rhywogaethau ar y rhestr, gan gynnwys pidyn-y-gog.



Darllenwch mwy  

Mae blodau pidyn-y-gog yn felyn llachar, a gallant dyfu hyd at 40cm o uchder, a gall y dail, sy’n ffurfio ar ôl y blodyn, gyrraedd hyd at 1.5m o uchder. Mae’r planhigyn yn marw’n ôl yn ystod y gaeaf gan adael ardaloedd eang o bridd caled a all fod yn agored i erydiad. Mae arogl cryf iawn ar y blodau, yn debyg i ddrewgi, a dyna sut cafodd ei enw cyffredin Saesneg. Mae’n ffafrio amodau llaith, ond nid oes gan y planhigyn ofynion pridd penodol ac mae’n tyfu’n dda ar y rhan fwyaf o safleoedd.

Mae’n debygol bod y rhan fwyaf o’r planhigion sy’n tyfu yn y gwyllt wedi dod o waredu deunyddiau gan fod clystyrau yn tyfu’n rhy fawr i’w lle mewn gerddi domestig yn gyflym iawn. Mae’n debygol hefyd bod rhai o’r poblogaethau yn y gwyllt wedi’u sefydlu gan wasgariad hadau o anheddau cyfagos. Unwaith y mae wedi’i sefydlu, mae’n blanhigyn ymledol iawn – mae ei ddail mawrion a’i ymlediad cyflym yn ei alluogi i orchfygu’r gystadleuaeth gan blanhigion brodorol a pheri difrod helaeth yn lleol. Gall ymledu trwy wreiddgyffion (coesynnau dan ddaear) neu had, ac mae’n ymledu’n hawdd trwy ddŵr, adar a mamaliaid.

Rheolaeth fecanyddol

Gellir palu planhigion, eginblanhigion newydd a gwreiddgyffion o’r ddaear a chael gwared arnynt. Fodd bynnag, os bydd tameidiau o’r gwreiddgyffion yn cael eu gadael ar ôl, gallant aildyfu a bydd planhigion newydd yn tyfu.

Rheolaeth gemegol

Gellir trin y dail yn effeithiol gyda chwynladdwr ond mae cyfyngiadau ar ba chwynladdwyr a ganiateir i’w defnyddio yn agos at ddŵr. Dylid trin y planhigyn rhwng Mehefin a Hydref pan fo’r dail yn eu llawn dwf a’r tir yn fwy sych. Gall fod angen sawl triniaeth dros nifer o dymhorau er mwyn ei ddiwreiddio’n gyfan gwbl.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr