Coed Garth Gell
Cynefin
Mae gan y coetir lawer o goed hen a hynafol, yn enwedig derw a fu unwaith yn tyfu’n fwy agored. Mae’r coed hyn a’r bywyd gwyllt sy’n ffynnu arnynt ac o’u cwmpas, yn enwedig y cennau ac adar y coetiroedd, yn ffafrio amodau mwy golau ac agored, ac mae clystyrau prysur o aildyfiant trwchus a chelyn yn bygwth lleihau lefelau gwelededd a golau. Hefyd, mae rhododendron yn fygythiad parhaus. Mae'r RSPB a phartneriaid yn gweithio’n galed gydag ymyraethau mecanyddol ac yn ceisio adfer pori addas i geisio adfer yr amodau iawn ar hyd a lled y safle. Rhan bwysig o’r gwaith hwn yw gwaith parhaus ar y rhododendron i’w rwystro rhag ail-gytrefu’r safle.

Cadwraeth
Mae gan y coetir lawer o goed hen a hynafol, yn enwedig derw a fu unwaith yn tyfu’n fwy agored. Mae’r coed hyn a’r bywyd gwyllt sy’n ffynnu arnynt ac o’u cwmpas, yn enwedig y cennau ac adar y coetiroedd, yn ffafrio amodau mwy golau ac agored, ac mae clystyrau prysur o aildyfiant trwchus a chelyn yn bygwth lleihau lefelau gwelededd a golau.
Hefyd, mae rhododendron yn fygythiad parhaus. Rydym yn gweithio’n galed gydag ymyraethau mecanyddol ac yn ceisio adfer pori addas i geisio adfer yr amodau iawn ar hyd a lled y safle. Rhan bwysig o’r gwaith hwn yw gwaith parhaus ar y rhododendron i’w rwystro rhag ail-gytrefu’r safle.
Gwybodaeth am y safle
Coed Garth Gell yn nyffryn afon Mawddach yw un o’r lleoedd gorau ar gyfer bywyd gwyllt yn y Deyrnas Unedig, ac mae wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (Site of Special Scientific Interest/SSSI).

Gweithgareddau hamdden
Mae’r llwybrau ymwelwyr yn arwain trwy goetir derw hardd gydag afon yn llifeirio ar lawr y dyffryn. Mae rhan o lwybr natur y warchodfa’n dilyn llwybr hen drac mwyngloddio aur, ac mae olion adeiladau a strwythurau eraill sy’n gysylltiedig â’r hen fwyngloddiau aur i’w gweld o gwmpas y warchodfa o hyd. Mae’r golygfeydd ar ben uchaf y warchodfa ar draws Dyffryn Mawddach ac i fyny i Gader Idris ymysg y rhai a edmygir fwyaf ym Mhrydain. Mae’r llwybr natur yn arw ac yn serth mewn mannau felly mae angen esgidiau gwydn.
Gallwch ddarllen mwy yma:
https://www.rspb.org.uk/reserves-and-events/reserves-a-z/mawddach-valley-coed-garth-gell/#VvAKI40684L8OAZk.99
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr