Coed Ty’n y Coed
Rhan o ACA Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion
Mae’r rhywogaethau coed yma yn amrywio o’r derw digoes trechol i sycamorwydd, ffawydd, ceirios a ffynidwydd Douglas. Mae’r goedwig dderw’n troi’n rhostir grug gydag ymyl o goed iau yn uwch ar y llethrau, ac mae waliau cerrig sychion yn ychwanegu nodwedd hanesyddol i dirwedd y safle. Golygfeydd godidog.

Mae Coed Ty’n y Coed yn goetir hynafol amlwg ar lethr sych a serth uwchlaw aber afon Mawddach, ac mae’n cynnwys derw digoes rhannol aeddfed i aeddfed (cynefin “coedydd derw’r ucheldir” nodweddiadol, a’r rhan fwyaf ohono yn rhan o ACA Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionnydd). Mae prif floc y coetir yn eithaf unffurf, fodd bynnag mae ychydig mwy o amrywiaeth yn y goedwig, gyda rhywfaint o ynn a phocedi o sycamorwydd a ffawydd yn y rhannau deheuol pellaf gerllaw’r bloc bach o ffynidwydd Douglas tal, deniadol a blannwyd yn 1930.
Mae’r isdyfiant yn brin ar y cyfan ac mae’r fflora grugaidd ar lawr y goedwig yn cael ei atal i raddau helaeth gan y canopi derw trwchus a’r Rhododendron a arferai fod yn bla yma, ac a gafodd ei glirio yn y 1990au. Mae rheoli ail-gytrefu gan rododendron yn broblem barhaus o hyd.

Mae’r coetir yn cytrefu’r llethrau uwchlaw’r coed derw sefydledig yn raddol. Mae’r ymyl ymledol hwn yn fwy amrywiol na’r llethrau is, ac mae’r derw’n llai trechol yma. Mae bedw, criafol, sycamorwydd ac ynn yn fwy cyffredin, gydag ambell i ffynidwydden. Mae’r haen brysgwydd a’r haenen lawr yn fwy hael.

Ymhellach fyth i fyny’r llethr, mae’r coetir yn troi’n rhostir grug gyda choed ar wasgar a phocedi o goetir iau. Mae’r grug yn hynod doreithiog, wedi’i gymysgu â thyrrau o eithin, grug a rhedyn ungoes, a chyda chriafol, derw, bedw a chonwydd o’r blanhigfa uwchben yma ac acw. Mae waliau cerrig sychion yn ffin i’r coetir, rhai mewn cyflwr gwael, ond maent yn nodweddiadol o’r dirwedd hanesyddol leol.
Mae darpariaeth mynediad i’r cyhoedd wedi’i gyfyngu i lwybrau yn y gornel ddeheuol, yn cynnwys llwybr newydd at sedd a golygfa sy’n rhoi golygfeydd ardderchog dros yr aber a thua Chader Idris. Mae ail sedd bwrpasol ar gael yn agos at y man parcio ac mae golygfeydd rhagorol i’w gweld o’r fan honno hefyd.
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr