Adfer coetiroedd hynafol
Coed Anfrodorol ac Adfer Coetiroedd Hynafol
Mae llawer o’r rhywogaethau coed a welir yn aml yntyfu yn ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn rhai na ystyrir yn gynhenid i’rcynefinoedd penodol hyn. Mae hyn yn cynnwys yr holl rywogaethau conwyddmasnachol, yn ogystal â rhai coed collddail fel y sycamorwydden (Acer pseudoplatanus) a’r ffawydden (Fagus sylvatica). Golyga hyn, yn ei hanfod, nafyddai’r un o’r rhywogaethau hyn, mwy na thebyg, wedi tyfu’n naturiol yn ycoetiroedd hyn heb ymyrraeth ddynol. Cyrhaeddodd y rhan fwyaf y lleoliadau hyno ganlyniad i’w cyflwyno’n fwriadol, h.y. at ddibenion cynhyrchu coed neu amresymau esthetig, ond mewn rhai achosion gallai fod wedi digwydd yn ddamweiniolac maent nawr yn ymledu ohonynt eu hunain.
Mae gan nifer o rywogaethau anfrodorol ran bwysig i’wchwarae mewn coedwigaeth gyfoes, yn arbennig yn y sector coedwigaeth fasnachol.Fodd bynnag, yng nghyd destun y Goedwig Law Geltaidd, maent yn aml yn caeleffaith niweidiol ar ecoloeg y cynefinoedd coetir sensitif. Dengys tystiolaethbod tameidiau gwerthfawr o fflora coetir hynafol, hen goed llydanddail aphriddoedd coedwig yn goroesi hyd yn oed ar y safleoedd hyn lle maerhywogaethau anfrodorol yn drech, ac mae’n bwysig gwarchod y rhain rhagbygythiadau – yn bennaf, cysgod gormodol, neu’n groes, gormod o olau.

Gydagwaith rheoli adfer gofalus a phwyllog, gellir gwarchod ac ehangu gweddillion ycoetiroedd hynafol gwreiddiol, gan eu gwyrdroi i gyflwr adfywiol, mwy naturiola’u trawsnewid yn raddol yn ôl i gynefin gwerthfawr y Goedwig Law Geltaidd. Ynaml, daw buddion ychwanegol yn sgil y broses hon, yn cynnwys cynhyrchu pren athanwydd coed yn ystod y camau trawsnewid ac ystod o fuddion tymor hirehangach, er enghraifft gwarchod priddoedd, cysgod parhaol ar gyfer tiroeddpori a gwell ansawdd dŵr.
Byddasesu’r safle i adnabod nodweddion allweddol a bygythiadau cyfredol i’r coetiryn creu cynllun adfer fydd yn helpu’r perchnogion a rheolwyr i flaenoriaethugwaith. Gall yr argymhellion wedyn fwydo mewn i gynllun rheoli tymor hir, gydagwaith monitro ac asesu bygythiadau’n barhaus yn llywio rheolaeth y perchnogioni’r dyfodol. Efallai y bydd angen gweithredu ar frys i atal dirywiad pellachnodweddion pwysig. Unwaith bod y nodweddion hyn megis coed nodedig mewn cyflwrcryfach, gellir gweithredu gwelliannau tymor hir i gyflwr y canopi. Dylai hyngynnwys symudiad graddol tuag at fwy o rywogaethau cynhenid trwy weithrediadausy’n cydfynd ag amcanion penodol y perchnogion a chyfyngiadau’r safle. Gallgweithrediadau ar safleoedd Coedwig Law Geltaidd ddilyn ymarfer rheolaethcoetir safonol, fodd bynnag, dylai pob gwaith rheoli sicrhau fod nodweddioncoedwig gwerthfawr yn cael eu gwarchod yn effeithiol. Dylai llwyrgwympo arsafle coetir pwysig fod yn ddewis olaf, ac wedi ei asesu’n iawn, gyda gwaithcofnodi a pharatoi wedi digwydd i leihau yr effaith andwyol ar y nodweddionsy’n parhau. Trwy reolaeth ofalus mae’n bosibl ymgorffori amcanion perchnogionmegis pren a thanwydd cynaliadwy ynghyd â chynnydd mewn bioamrywiaeth. Unwaithmae’r safle yn rhydd o fygythiadau (megis gormod o gysgod neu gormod o bori)bydd y coetir yn gallu symud ymlaen tuag at reolaeth cynaliadwy tymor hir ganadlewyrchu cynefin y Goedwig Law Geltaidd.
Mae llawer o gyngor gan Goed Cadw yn y dogfennau canlynol:
Lawrlwythiadau
PAWS Buchesau Case Study Cym | Agor |
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr