Adnoddau Addysg Coedwigoedd Glaw Celtaidd

English

Adnoddau Addysg Coedwigoedd Glaw Celtaidd

Beth sydd yn gwneud Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn wahanol i unrhyw goedwig arall yng Nghymru?

Wel ... ateb byr .... glaw! ... a'r ffaith bod y goedwig wedi bodoli ers blynyddoedd maith wrth gwrs.

Mae hyn yn golygu bod rhywogaethau (mathau o blanhigion, anifeiliaid ag organebau eraill) arbennig sydd wedi addasu i'r cynefin gwlyb mwyn unigryw yma wedi llwyddo goroesi.

Beth yw'r ateb hir felly?

Wel ... mae'r ateb yn gallu fod mor hir ac mae gennych chi amser i astudio'r goedwig law. Mae gwylio'r fideo yma'n cychwyn da, ond wrth ymchwilio coedwig gan ddefnyddio'r adnoddau eraill byddwn yn rhannu yma dros yr wythnosau nesaf wnewch ddysgu mwy...

Beth am gysylltu gyda ni trwy e-bost neu ar ein cyfryngau cymdeithasol i esbonio beth 'dach chi wedi darganfod?

Lawrlwythiadau

Adnodd fideo Cym lefel uwch Agor
Adnodd fideo Cym lefel sylfaenol Agor
Adnodd fideo Cym lefel hawdd Agor
Adnodd fideo Cym lefel canolradd Agor

Glaw, glaw, glaw ...

Faint ydy o'n bwrw glaw mewn coedwig law tybed?

Lawr lwythwch y gweithgaredd glawiad yma sydd yn addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Lawrlwythiadau

Glawiad Coedwigoedd Glaw Cymru CA2 Agor

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr