Gwirfoddolwyr
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gyfarfod pobl, dysgu sgiliau newydd a helpu gwarchod cynefin gwerthfawr ac arbennig y Coedwigoedd Glaw Celtaidd.
Beth bynnag fo eich diddordebau neu gallu, mae lle i chi chwarae eich rhan. Byddwch hefyd yn gweld bod llu o fuddion i chithau: sgiliau a phrofiadau defnyddiol, cynnydd yn eich gwybodaeth am y cynefin, cwrdd a ffrindiau newydd, ymarfer corff a’r boddhad o wybod eich bod yn gwneud rhywbeth i hepu.

Fel gwirfoddolwr i brosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru byddwch yn ein helpu i gyrraedd ein targedau; sef:
- Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Coedwigoedd Glaw Celtaidd;
- Rheoli rhywogaethau ymlwedol estron ac felly galluogi’r coedtiroedd i ddarparu llu o wasanaethau ecosystem;
- Hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Coedwigoedd Glaw Celtaidd;
- yn cymryd rhan mewn gwaith sydd yn helpu eraill i ddeall a mwynhau y Coedwigoedd Glaw Celtaidd
Gallwch fod yn hyderus y byddwch yn:
- cael yr hyfforddiant a’r offer sydd ei angen ar gyfer eich rôl
- cael eich goruchwylio ac yn gweithio ochr yn ochr a gwirfoddolwyr profiadol neu staff
- cael eich diogelu gan yr un rheoliadau iechyd a diogelwch a staff cyflogedig
- derbyn costau teithio
- yn cymryd rhan mewn gwaith sydd yn helpu eraill i ddeall a mwynhau y Coedwigoedd Glaw Celtaidd
Gallwch wirfoddoli fel unigolyn neu gyda grwp, gallwch ymuno mewn dyddiau gwaith yn rheolaidd, unwaith y mis neu unwaith y flwyddyn.
Beth rydych ei angen:
- Dillad gwaith cynnes
- Dillad glaw
- Esgidiau addas
- Bwyd a diod

Dan 18 – Rydym yn croesawu pobl ifanc ar ein diwrnodau gwaith, ond sylwer:
- os ydych dan 16 oed rhaid i chi fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
- os ydych yn 16-17 oed bydd angen awryddo ffurflen ganiatad rhieni cyn i chi gael gwirfoddoli ar ben eich hunain
Rydym hefyd yn croesawu grwpiau ysgol / coleg ar ddyddiau gwaith. Cysylltwch â ni i drefny dyddiad lleoliad addas i’ch grwp.
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr