Beth am ddod yn Gofnodydd Coedwig Law

English

Beth am ddod yn Gofnodydd Coedwig Law

Lawrlwythiadau

Rainforest Recorder Agor

Ydych chi’n caru eich coedwig law leol ac eisiau gwybod sut i helpu i'w gwarchod ar gyfer y dyfodol? Un gweithgaredd hynod bwysig y gall unrhyw un gymryd rhan ynddo yw cofnodi a rhannu manylion y Rhywogaethau Estron Goresgynnol (RhEG) a welwch pan fyddwch allan yn crwydro'r ardal!

Mae RhEG yn rhywogaethau, sy’n cynnwys anifeiliaid a phlanhigion, sy’n cael eu cyflwyno y tu allan i’w cynefin naturiol yn fwriadol neu’n anfwriadol, ac sy’n cael effeithiau niweidiol ar eu hamgylchedd newydd. Maen nhw’n gallu trechu ein planhigion gwyllt brodorol a’n bywyd gwyllt ni, gan arwain at ddiraddio cynefinoedd naturiol, ac maen nhw’n un o’r bygythiadau mwyaf i ddiogelu dyfodol ein coedwigoedd glaw tymherus Cymreig.

Efallai y byddwch yn dod o hyd i Rhododendron ponticum, un o’r rhywogaethau a dargedir gennym, math o lwyn yw hwn sy’n tyfu’n gyflym sydd wedi dianc o erddi’r oes Sioraidd ac sydd bellach yn gorchfygu rhannau o’r Goedwig Law Geltaidd, lle mae’n ffurfio carped trwchus sy’n gallu cysgodi coed derw hynafol a fflora daear eraill y dyfodol. Edrychwch am ei flodau porffor amlwg yn y gwanwyn, a'i ddail lledrog gwyrdd tywyll nad ydyn nhw'n disgyn yn y gaeaf.

Flyer1

Os hoffech chi achub ein coedwigoedd glaw Cymreig trwy gofnodi, y cam cyntaf yw mynd allan a dechrau archwilio! Lawrlwythwch ap LERC Cymru ac adroddwch pa rywogaethau rydych chi wedi dod o hyd iddyn nhw, yn ogystal â ble a phryd y gwnaethoch chi ei weld – ac ychwanegwch lun os ydych chi'n ansicr beth yn union ydi o. Mae pob darn o wybodaeth a gyflwynwch yn helpu i adeiladu darlun o'r rhywogaethau sy'n byw yn ein coetiroedd, a'r hyn sydd angen i ni ei wneud i'w gwarchod ar gyfer y dyfodol.

Dyma ganllaw cyflym y gallwch ei argraffu neu ei gadw ar eich ffôn gyda rhai o'r rhywogaethau y mae angen eich help chi arnom i ddod o hyd iddynt. Tagiwch ni ar Trydar / Twitter ac Instagram gyda lluniau ohonoch chi allan o gwmpas y lle gan ddefnyddio ein hashnod #HelwyrRhodo

Lawrlwythwch ap LERC Cymru yma

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr