Coed Llechwedd
Rhan o’r ACA
Mae cynefinoedd coetir a glaswelltir hynafol Coed Llechwedd yn cynnal ystlumod pedol lleiaf a llu o adar nythu. Yn y gwanwyn, mae’r coetir cymysg hwn o ynn a derw yn llawn blodau gwyllt y goedwig. Gellir cyrraedd yma ar droed o Harlech fel rhan o daith gerdded hwy sy’n cynnwys tirwedd hanesyddol y bryniau uwchben.

Mae Coed Llechwedd yn rhan o ardal eang o goetir a ffridd ar lethr serth sy’n wynebu’r gogledd-orllewin. Mae’n rhan o rwydwaith o goetiroedd derw ac ynn, hynafol gan fwyaf, a saif ar ymylon y gwastatir arfordirol i’r gogledd-ddwyrain o Harlech, lle mae’r tir yn aml yn greigiog, gyda meini mawr ar wasgar ar ei hyd. Mae’r llethrau is a rhan ogleddol y safle’n cynnal coetir lled-naturiol, sy’n debygol o fod yn hynafol. Ar y tir uwch, mae coetir aeddfed yn troi’n fosaig o redyn ungoes, glaswelltir, prysgwydd, coed ar wasgar a choetir agored/clytiog. I’r dwyrain, lle mae natur greigiog y tir yn clirio, mae cae wedi’i gau i mewn sy’n cynnal glaswelltir asidig heb ei wella ac mae rhedyn ungoes a phrysgwydd yn doreithiog yn lleol.
Mae amrywiaeth y coetir aeddfed yn nodedig, yn fwy na nifer o’r coedydd eraill o fewn ACA Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionnydd y mae Coed Llechwedd yn rhan ohono. Mae ei llethrau is yn dueddol o fod yn dra-fasig, yn cynnal llystyfiant sy’n nodweddiadol o goedydd ynn yr ucheldir: ynn sydd flaenaf yn y canopi gyda sycamorwydd a cheirios gwyllt yn gyffredin, mae’r haenen brysgwydd yn ddatblygedig ac yn cynnwys cyll, llwyfenni llydanddail, ac ynn a sycamorwydd ifanc, ac mae haenen y maes yn cynnal mieri, fflora coetir hynafol a rhedyn (gwrychredyn meddal yn bennaf). Mae’r llethrau uwch yn dueddol o fod yn fwy asidig, yn cynnal cyfran uwch o dderw digoes, bedw a chriafol lle mae mieri, rhedyn ungoes, gwyddfid, marchredyn llydan a suran y coed yn flaenllaw, er bod ynn yn parhau i fod yn rhan o’r canopi drwyddi draw. Ar hyd a lled y coetir, ceir clytiau llaith lle mae gwerni, helyg llwydion, erwain, eglyn cyferbynddail, rhedyn Mair, brigwellt garw a’r hesg blodau anghyfagos yn ffynnu.

Ymestyn o’r llwybr meirch i’r llethrau deheuol, at olygfa ac allan i’r bryniau agored. Oddi wrth y llwybrau hyn, nid yw’r tir serth, creigiog yn groesawus i ymwelwyr, felly mae’r coed wedi cael llonydd; dyma le delfrydol ar gyfer adar nythu, fel crehyrod.
Dros y canrifoedd mae’r goedwig law Geltaidd wedi dirwyio oherwydd materion yn amrywio o blannu coed conwydd, ymlediad rhywogaethau megis Rhododendron ponticum a phori gan ddefaid a cheirw.
Mae’r dirwyiad wedi rhoi pwysau ar blanhigion gwerthfawr, yn enwedig cennau megis. Pyrenula hibernica (blackberries and custard) a llabed yr ysgyfaint, adar gan gynnwys y gwybedog brith, tingoch a thelor y coed, a mamaliaid gan gynnwys yr ystlum pedol lleiaf, y dyfrgi a llygoden y coed.
Mae grwp o fudiadau gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am fuddsoddi’r arian mewn ymdrech i waredu pedair ardal o Goedwig Glaw Celtiadd o’r rhywogaethau ymledol a chael hyd i ffyrdd o wella eu rheolaeth, er engrhaifft trwy newid y ffordd mae’r coetiroedd yn cael eu pori.
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr