Coedwigoedd Glaw Celtaidd

English

Coedwigoedd Glaw Celtaidd

Croeso i wefan Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru!

Yma cewch ddysgu am y prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd – lle i ddod o hyd i’ch coedwig law lleol, pam fod angen gwarchod y cynefin arbennig hwn, pam ei fod yn le mor arbennig a llawer mwy!

Gallwch hefyd ddarganfod sut gallech chi helpu, neu beth am ymuno â ni ar un o’n digwyddiadau?

Rydym hefyd yn gobeithio eich diweddaru’n rheoliadd am beth sydd yn digwydd gyda’r prosiect – cadwch lygaid allan am y newyddion diweddaraf!

Celtic rain forests

Dyma ychydig o gefndir…

Diolch i nawdd Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, dyma ddechrau pennod newydd yn hanes coedwigoedd glaw Celtaidd Cymru sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr cadwraethol anffafriol. Trwy ganolbwyntio ar waredu rhywogaethau planhigion estron a rheolaeth effeithiol y bwriad yw dod â’r coedwigoedd yn ôl i’w cyflwr ffrwythlon blaenorol.

Mae coedwigoedd glaw Celtaidd, sydd i’w cael yn y DU yn bennaf, yn cael eu hystyried o bwysigrwydd Ewropeaidd oherwydd eu strwythur agored, a’r amodau mwyn a llaith oddi mewn iddynt sy’n gynefin i gyfoeth o lystyfiant.

Ar hyn o bryd mae’r coedwigoedd hyn mewn cyflwr anffafriol sy’n parhau i ddirywio. Lledaeniad y Rhododendron ponticum sy’n bennaf gyfrifol am y dirywiad gan ei fod yn newid ansawdd y pridd, yn rhwystro golau’r haul rhag cyrraedd llawr y goedwig, ac yn mygu a rhwystro atgynhyrchiad llystyfiant brodorol. Ffactorau eraill sy’n effeithio ar y coedwigoedd yw gor neu dan-bori, diffyg rheolaeth a llygredd nitrogen atmosfferig.

Prif nod y prosiect yw gwella’r cynefin o blanhigion isel fel mwsoglau a llysiau’r afu o fewn y coedwigoedd hyn trwy fynd i’r afael â’r rhywogaethau ymledol, yn enwedig y Rhododendron ponticum, sy’n bygwth statws cadwraethol y coedlannau. Bydd y cynllun hefyd yn datblygu rheolaeth actif o goedwigoedd yn ogystal ag arddangos pori gweithredol a thechnegau adfer coedwig fydd yn eu tro yn gwella cyflwr cynefin, arddangos arfer da, yn cynyddu gwydnwch a gwella gweithrediad ecosystem y coedwigoedd.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr