Pori cadwraethol

Lawrlwythiadau
Pori Mewn Coedwigoedd Glaw Celtaidd - Canllaw i Reolwyr Coetir | Agor |
Astudiaeth Achos Pori Cadwraethol: Coed Crafnant | Agor |
Astudiaeth Achos Pori Cadwraethol: Coed Garth Gell | Agor |
Astudiaeth Achos Pori Cadwraethol: Abergwynant y Gribyn | Agor |
Astudiaeth Achos Pori Cadwraethol: Coed Lan-fraith | Agor |
Pori Cadwraethol
Mae hanes hir o bori yn ein coetiroedd brodorol, naill ai gan anifeiliaid gwyllt neu gan dda byw, ac mae hyn wedi arwain at ddatblygu nifer o’n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr. Fodd bynnag, yn y gorffennol diweddar, mae nifer o ardaloedd, yn enwedig y rhai gyda dosbarthiadau ecolegol, wedi cael eu ffensio i atal anifeiliaid sy’n pori. Roedd hyn yn arbennig o wir am goetiroedd, oherwydd fe ystyriwyd pori yn niweidiol i goed ifanc. Dros amser, cafwyd effeithiau anffafriol ar ecosystemau coetiroedd yn sgil y diffyg pori, yn enwedig cynnydd yn helaethrwydd mieri, eiddew a rhywogaethau eraill sy’n gyffredin yn yr isdyfiant. Er bod ychydig bach o fieri ac eiddew yn gynefin ac yn ffynhonnell fwyd ardderchog, a bod angen glasbrennau i dyfu i fod yn goed aeddfed yn y dyfodol, gall gormod o’r rhain fod yn niweidiol i fflora cysylltiedig ar lawr y goedwig, yn cynnwys cennau a bryoffytau gwerthfawr y Coedwigoedd Glaw Celtaidd.
Cydnabyddir yn eang bellach fod pori cadwraethol yn adnodd effeithiol iawn ar gyfer rheoli cynefinoedd coetiroedd brodorol. Gall gyrr neu haid o borwyr greu’r amrywiaeth dymunol yn strwythur y cynefin, un ai’n uniongyrchol trwy bori, neu trwy symud o gwmpas y safle.
Mae’n bwysig iawn hefyd dewis y math iawn o anifail ar gyfer y safle – mi fyddech chi’n synnu mor wahanol yw arferion pori un anifail o’i gymharu a’r llall. Er enghraifft bydd defaid yn pori’n bwyllog ar eu hoff fath o lystyfiant, a bydd bridiau brodorol yn aml yn pori glasbrennau bychain. Maen nhw’n ysgafn, yn sionc ac yn gallu cyrraedd y rhan fwyaf o leoedd. Fodd bynnag, maent yn dueddol o gael eu gwlan yn sownd yn y mieri. Ar y llaw arall, mae gwartheg yn drymach ac yn gallu gwthio trwy lystyfiant mwy trwchus fel rhedyn a mieri. Maent yn bwydo trwy lapio’u tafodau o gwmpas darn o lystyfiant a’i rwygo i ffwrdd. Mae hyn yn gadael strwythur mwy bras ar ei ol – sy’n ardderchog ar gyfer creu cynefin diddorol. Gallant hefyd gyrraedd yn uwch yn y coed uwchben i bori. Mae merlod rhywle yn y canol rhwng y ddau – maent yn pori’n ddethol, ond maent yn ddigon mawr i gael peth effaith ar strwythur ffisegol y safle. Defnyddiwn fridiau brodorol bron bob amser, gan eu bod wedi datblygu a ffynnu ar y bwyd garw hwn ac yn ddigon gwydn i ymdopi a’n tywydd. Yn ogysatal a’u gallu i greu amrywiaeth mewn cynefin coetir, mae tail y da byw yn gyflenwad bwyd ar gyfer nifer o infertebratau megis chwilen y domen, felly’n fantais arall o gael da byw mewn coetir.
Pan fo lefelau stoc yn mynd yn uwch na’r hyn sy’n gynaliadwy, mae arwyddion o hyn i’w gweld yn y coetir fel arfer – presenoldeb coed wedi’u difrodi ar lefel pori, neu absenoldeb unrhyw lasbrennau ifanc, er enghraifft. Ar y pegwn arall, pan nad oes digon o bori, daw planhigion trechol, mwy ymosodol i’r amlwg yn fuan ar y safle. Ni ddymunir yr un o’r ddwy sefyllfa, a dyna pam y gall trefn bori gytbwys sy’n defnyddio’r anifeiliaid cywir gynyddu bioamrywiaeth cynefin.
Er mwyn i bori fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, rhaid i’r gwaith fod yn ddeiniadol yn economiadd ac ac yn ymarferol i’r porwr. Mae angen i’r seilwaith cywir fod yn ei le ar safleoedd, yn cynnwys traciau mynediad, terfynnau sy’n cadw da byw i mewn, cyfleusterau trin stoc digonol, cyflenwad dŵr a thaliadau cymorth cynaliadwy er mwyn gwneud rheolaeth barhaol y coetiroedd yn ddichonol yn economaidd. O ganlyniad, os yw’r amodau’n iawn, mae defnydd da byw fel arf cadwraeth gynaliadwy yn gallu cynorthwyo cyflwr ecolegol y coetir, yn ogystal a dod a buddion cymdeithasol-economiadd i reolwyr tir.

Gwrandwch ar y gweminar Saesneg “Pam mae angen pori rheoledig ar Goedwigoedd Glaw Celtaidd?" wnaeth cael ei chyflwyno ar Fedi 17.9.20 … ein fideo cyntaf ar ein sianel YouTube newydd ar gyfer y prosiect. Ein Gweminar Cyntaf Pori ar YouTube

Gwrandwch ar y gweminar Saesneg “Sut rydyn ni'n pori Coedwigoedd Glaw Celtaidd ar gyfer ffermio integredig ac adfer cynefinoedd" wnaeth cael ei chyflwyno ar Fedi 24.9.20 … yr ail fideo ar ein sianel YouTube newydd ar gyfer y prosiect. Ein hail gweminar pori ar YouTube
Gwelwch isod linc i gyflwyniad am bori cadwraethol wnaethon ar gyfer cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru 2020. Mae'n gynnwys fideo am safleoedd RSPB Cymru Goed Garth Gell ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dolmelynllyn, Ganllwyd.
Darganfyddwch fwy am elfen pori cadwraeth y prosiect drwy ddarllen yr astudiaethau achos a baratowyd yn garedig gan aelodau tîm y prosiect (Julia Harrison a Helen Upson).
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr