Coed Aber Artro
Rhan o ACA Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionnydd
Mae Coed Aber Artro yn goetir hynafol lle mae clychau’r gog yn ddigon o sioe yn y gwanwyn, sy’n ei wneud yn gyrchfan boblogaidd ymysg pobl leol ac ymwelwyr.
Mae Coed Aber Artro yn rhan o’r dirwedd goediog leol i’r dwyrain o bentref Llanbedr. Mae coetir llydanddail lled-naturiol yn nodweddiadol o’r safle (coetir hynafol lled-naturiol yn bennaf), ac fe’i poblogir yn bennaf gan dderw digoes, gydag ynn a gwerni yn y rhannau mwy llaith. Mae’r coetir hwn wedi cael ei addasu gan gyflwyniad coed ffawydd, sydd yn nodwedd amlwg yn y rhan ddwyreiniol, a sycamorwydd i’r de. Ceir coed conwydd aeddfed yma ac acw, yn cynnwys gweddillion coedfa fechan, sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod pan roedd y goedwig yn ffurfio rhan o dir Neuadd Aber Artro gerllaw. Mae sawl brigiad creigiog a nifer o ffynhonnau a nentydd, ac mae argae wedi’i osod ar un o’r rhain i greu pwll bach. Mae’r goedwig wedi’i lleoli ar lwybr poblogaidd i Gwm Bychan ac mae rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus a llwybrau goddefol yn gwasanaethu’r ardal, nifer ohonynt yn dilyn hen sarnau. Mae’n amwynder lleol pwysig a gaiff ei fwynhau gan gerddwyr lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yn y gwanwyn yn enwedig, mae’r clychau’r gog toreithiog yn denu pobl, a’r llennyrch wrth ymyl y ffordd yn cynnig golygfeydd sy’n hygyrch hyd yn oed i bobl a chanddynt gyfyngiadau ar eu symudedd, er mai cyfyng braidd yw’r opsiynau parcio anffurfiol.

Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr