Coed Cymerau
Rhan o ACA Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion
Saif y goedwig brydferth hon wrth ymyl Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Cymerau ger Blaenau Ffestiniog. Caiff ymwelwyr fwynhau llwybr cerdded cylchol cymharol fflat trwy goetir a dolydd gydag arddangosfeydd blodau’r goedwig yn y gwanwyn yn cynnwys clychau’r gog a blodau’r gwynt.
Mae Coed Cymerau Isaf yn goetir ucheldir sylweddol o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ac mae’n ffurfio rhan o ardal eang o goetir derw yn nyffryn Ffestiniog, yn cysylltu SSSI Coedydd Maentwrog i’r de-orllewin ac NNR/SSSI Coed Cymerau ger y ffin orllewinol.
Derw digoes yw’r coed pennaf yn y canopi, gyda bedw cyffredin ar briddoedd bas, asidig iawn. Mae coed cyll yn bresennol lle mae priddoedd dyfnach a thoreithiog yn caniatáu. Mae aildyfiant derw helaeth yma. Mae llus yn niferus, gyda rhywfaint o grug, cymysgedd o weiriau yn cynnwys brigwellt main a chymuned amlwg a nodweddiadol o fwsoglau, llysiau’r afu a rhedyn.

Mae clychau’r gog yn werth eu gweld yma ym mis Mai. Mae rhedyn ungoes a mieri yn doreithiog yn lleol. Mae coetir sy’n datblygu yn nodweddiadol o lethrau’r ffiniau dwyreiniol a deheuol (plannodd Coed Cadw’r rhan i’r de-ddwyrain yn rhannol yn 1985), gyda choed aeddfed yma ac acw, bedw yn bennaf. Mae tirwedd fewnol y safle yn gymhleth, gyda phonciau creigiog, llethrau a chymoedd cymedrol a meysydd agored o wair wedi’i led-wella a chorsydd. Mae’r rhan fwyaf o’r caeau a dwy o’r corsydd wedi’u ffensio ac yn cael eu pori gan wartheg yn hwyr yn yr haf/yn gynnar yn yr hydref. Mae rhan o’r coetir i’r gorllewin hefyd wedi’i ffensio gyda’r bwriad o roi defaid yno i bori’n ysgafn.

Saif hen ffermdy Cymerau Isaf (sydd bellach yn eiddo ar les preifat) yng nghanol yr eiddo. Mae nifer o hen waliau ffin, beudai a chorlannau ar wasgar ar hyd a lled y coetir: mae un beudy yn fan clwydo pwysig yn yr
haf i ystlumod pedol lleiaf. Mae llwybr cylchol hawdd gydag arwyddbyst yn arwain trwy’r goedwig. Mae llwybrau eraill yn cynnwys rhan o’r hen ffordd o Flaenau Ffestiniog i Faentwrog (sy’n ddim ond llwybr troed
bellach) a llwybr cysylltu i olygfa rhaeadr ddeniadol ychydig y tu hwnt i’r safle tua’r gogledd. Mae’r coetir yn amwynder lleol poblogaidd, yn cynnig llwybr hygyrch i deuluoedd a cherddwyr hŷn gyda man parcio addas
yn gyfagos.
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr