Amdanom ni
Pan mae rhywun yn son am goedwigoedd glaw, efallai mai’r Amazon a’r holl greaduriaid lliwgar sy’n dod i’ch meddwl. OND meddyliwch am eiliad, ‘coedwigoedd’ a ‘glaw’ – mae hen ddigon o’r ddau beth yma yng Nghymru!
Dyma goedlannau hudolus dros ben, gyda charpedi gwyrdd o fwsoglau yn ymledu dros y ddaear greigiog ac yn dringo’r boncyffion hynafol. Mae yno wastad ddŵr yn tasgu nepell i ffwrdd, a gyda bowlderi mawrion a cheunentydd dirifedi, mae’r coedwigoedd hyn yn llefydd delfrydol am antur!
Mae rhai o’r coedlannau heb eu cyffwrdd gan ddyn bron, ac mae mynd am dro yno fel siwrne nol mewn amser. Gallant deimlo yn arallfydol bron!

Carped gwyrdd
Arhoswch funud, fe welwch ddail o bob siap, a phlanhigion yn tyfu ar blanhigion brith draphlith. Mae rhedynnau cyrliog yn codi eu pennau trwy’r mwsogl, y cyfan yn bob math o wyrdd gwahanol.
Edrychwch at eich traed, faint yn union o fwsoglau gwahanol sydd yna? Rhai yn debyg i blu, rhai fel ser, ac eraill fel tafodau bychain – a gwyrdd pob un yn wahanol i’r nesaf!
Fe welwch batrymau lliwgar ar ganghennau’r coed. Tyfiant rhyfedd o bob math, rhai yn debyg i fresych, eraill yn smotiog, rhai hyn oed yn flewog. Yn llwyd, oren, piws i grybwyll dim ond ychydig liwiau - dyma’r cennau.
Mae’r glaw yn disgyn o’r nenfwd, nentydd yn rhaeadru wrth eich traed, a phopeth rhwng y ddau yn wlyb socian!
Amodau perffaith
Dim ond mewn rhai llefydd ar arfordir gorllewinol y DU y mae’r cynefin hwn yn gallu bodoli – rydym yn ffodus iawn i’w gael yma yng ngorllewin Cymru. Oes, mae digonedd o law yn disgyn dros Gymru i gyd ond yn arbennig felly ar yr ochr orllewinol.
Rhwng y glaw rheolaidd, lleithder cyson, tymheredd cymedrol ac aer heb ei lygru, mae’r is blanhigion yn ffynnu - ac yn rhoi cartref unigryw i weddill y bywyd gwyllt.
Cynefin prin
Dim ond darnau gwasgaredig o’r Goedwig Law Geltaidd sydd ar ôl, y rhan fwyaf wedi eu gwarchod rhag pori ac ar lethrau serth neu mewn ceunentydd cul.
Yn y gorffennol roedd y coedlannau hyn yn gorchuddio ardaloedd llawer ehangach, ond heddiw maent yn gynefin prin iawn.
Am ganrifoedd roedd yna orddefnydd o’r coedlannau fel ffynhonnell goed a rhisgl i drin lledr, a chafwyd tir ei glirio er mwyn pori gan anifeiliaid fferm. Daeth mwy o bwysau yn ystod yr 20fed ganrif wrth i blanhigfeydd coed conwydd gael eu ffafrio dros amddiffyniad goed cynhenid i hybu gorchudd coed.
Yn anffodus mae hyd yn oed y darnau hynny sy’n parhau mewn perygl o gael eu difetha os nad ydym yn gofalu amdanynt. Problem ddifrifol erbyn heddiw yw coloneiddio gan rywogaethau ymledol fel Rhododendron.
Nod y prosiect 7 mlynedd hwn yw mynd i'r afael â'r bygythiadau hyn a gwella cyflwr y coedlannau gwerthfawr hyn.
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr