Beth yw Coedwig Law Geltaidd?

English

Beth yw Coedwig Law Geltaidd?

Mae’r term Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn cyfeirio at y coetiroedd Atlantig a geir ar hyd arfordir gorllewinol Ynysoedd Prydain. Mae’r rhain yn ffurfio rhan o fath o gynefin o’r enw ‘coedwigoedd glaw arfordirol tymherus’, sydd i’w cael yn fyd-eang o arfordiroedd gorllewin Canada a Chile, i ardaloedd o gwmpas y Môr Du, rhannau o ddwyrain Asia, ac ardaloedd dwyreiniol Awstralasia. Mae cynefinoedd o’r fath wedi’u lleoli yn y parth tymherus, mewn ardaloedd sy’n cael glaw blynyddol cymedrol i drwm, a cheir cyflyrau hinsoddol mwyn ynddynt.

Mae’r rhywogaethau coed sy’n nodweddiadol o’r Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn cynnwys y dderwen ddigoes Quercus petrea, yr onnen Fraxinus excelsior, y gollen Corylus avellana a’r fedwen gyffredin Betula pubescens, ac mae celyn (Ilex spp.) i’w weld yn aml yn y canopi isaf. Caiff rhai o Goedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru eu hystyried ymysg yr enghreifftiau gorau o goetiroedd derw naturiol yn Ewrop. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod nodweddion y coetiroedd hynod hyn yn cynnwys llawer mwy na dim ond y coed a saif yno, ond hefyd y casgliad cyfoethog ac amrywiol o is blanhigion sy’n ffynnu dan amgylchiadau o’r fath – rhedyn, mwsoglau a llysiau’r afu (bryoffytau yw’r enw cyfunol arnynt), a chennau, heb sôn am wybedogion brith, clychau’r gog, llwyni cyll, llygod daear, suran y coed, llygod y maes, cnocellod y coed, caws llyffant a glasbrennau derw, ymysg miloedd o organebau byw eraill y mae’r Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn gartref iddynt.

© 2019 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl