Coedwigoedd Glaw Cymru

English

Coedwigoedd Glaw Cymru

Ar hyd a lled Cymru, lle mae systemau tywydd arfordirol yn cwrdd â’r bryniau a’r mynyddoedd, mae glawiad uchel yn cyfuno â’r dirwedd goediog i greu’r amodau ar gyfer coedwig law dymherus, cynefin unigryw sy’n digwydd ar lai nag 1% o wyneb y blaned.

Mae’r rhwydwaith hwn o goetiroedd a choed yn ffurfio’r darnau o goedwig law dymherus o bwys byd-eang, rhannau o gynefin coediog a fu unwaith yn enfawr ac yn ymestyn ar hyd arfordir gorllewinol Ewrop. Mae’r dirwedd hon yn rhan hanfodol o dreftadaeth ecolegol a diwylliannol Cymru.

Cynghrair Coedwigoedd Glaw Cymru (CCGC)

Mae Cynghrair Coedwigoedd Glaw Cymru (CCGC) yn bartneriaeth o sefydliadau sy'n ymroddedig i ddiogelu'r cynefinoedd gwerthfawr hyn. Trwy gydweithio, mae'r Gynghrair yn gweithio i amlygu pwysigrwydd ecolegol, amgylcheddol a diwylliannol coedwigoedd glaw tymherus Cymru

a hyrwyddo eu rheolaeth a'u hadferiad cadarnhaol i'r dyfodol.

Adroddiad ar Gyflwr Coedwigoedd Glaw Cymru

Yr Adroddiad ar Gyflwr Coedwigoedd Glaw Cymru yw allbwn mawr cyntaf y Cynghrair ar gyfer Coedwigoedd Glaw Cymru. Mae'n sefydlu llinell sylfaen ecolegol ar gyfer cyflwr coedwig law yng Nghymru, gan dynnu sylw at y bygythiadau lluosog bod y cynefin yn wynebu ac yn amlinellu’r camau gweithredu sydd eu hangen i adfer coedwig law dymherus Cymru a chreu tirwedd coedwigoedd glaw iachach, â chysylltedd gwell ac yn fwy gwydn.

Darllenwch mwy  

Adroddiad ar Gyflwr Coedwigoedd Glaw Cymru yw allbwn mawr cyntaf y Cynghrair Coedwigoedd Glaw Cymru, â ariannwyd gan y People’s Postcode Lottery (The Postcode Green Trust).

Lawrlwythiadau

Adroddiad ar Gyflwr Coedwigoedd Glaw Cymru 2024 CYM Agor
Mushroom River Ben Porter

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr