Coed Felenrhyd/Llennyrch

English

Coed Felenrhyd/Llennyrch

Rhan o ACA Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion.

Dewch i archwilio darn gwerthfawr o’r Goedwig Law Geltaidd. Yn 2015, cafodd Coed Cadw gyfle arbennig i gaffael Llennyrch, fferm ucheldir draddodiadol gyda darn arbennig o goedwig law dymherus yn ei chanol. Ynghyd â Choed Felenrhyd, a oedd eisoes dan berchnogaeth Coed Cadw, mae gan y dirwedd hon le arbennig yn chwedloniaeth Cymru ac mae’n ymestyn o lannau Llyn Trawsfynydd at ymylon aber afon Dwyryd. Credir fod y llethrau serth o boptu afon Prysor wedi bod dan goed ers miloedd o flynyddoedd – efallai ers i goed ail-gytrefu Cymru ar ôl yr Oes Iâ ddiwethaf – ac mae mynd am dro yma’n sicr yn teimlo fel taith yn ôl mewn amser. Dyma le hudolus sy’n atseinio gan gân adar, lle mae coed derw cnotiog yn gyforiog o fwsoglau a rhedyn.

Mae Coed Felenrhyd a Llennyrch yn eiddo sylweddol o 309 hectar, yn cysylltu Coed y Rhygen ar lannau Llyn Trawsfynydd gydag aber afon Dwyryd i’r gorllewin. Diffinnir ei ffin ogleddol gan geunant dwfn a llawn awyrgylch afon Prysor, Ceunant Llennyrch. Gorchuddir llethrau serth y ddyfnant gan goetir o dderw digoes gyda chriafol a bedw, a rhywogaethau fel ynn, cyll a llwyfenni ar briddoedd mwynach. Mae’r coetir hwn wedi’i ddynodi’n SSSI oherwydd ei fryoffytau Atlantig, sy’n ffynnu yn amodau llaith y goedwig law dymherus hon, lle gall fwrw glaw 200 diwrnod y flwyddyn. Mae ansawdd fflora’r is haenau o bwysigrwydd Ewropeaidd, a byd-eang mewn gwirionedd, ffaith a gydnabyddir gan gynhwysiad y coetir yn Ardal Cadwraeth Arbennig Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionnydd.

Coed Felynrhyd Llennyrch

Yn fwy diweddar, mae gwaith arolygu wedi cadarnhau pwysigrwydd rhyngwladol y safle ar gyfer cadwraeth cennau.

Mae nifer o rywogaethau prin yma nad ydynt yn ymddangos yn unlle arall yng Nghymru ac mae eu presenoldeb yn arwydd o gysondeb cynefin sylweddol dros filoedd o flynyddoedd. Mae Coed Cadw (The Woodland Trust in Wales) wedi bod yn rheoli Coed Felenrhyd ers 1991.

Yn 2015, daeth cyfle i brynu Llennyrch, fferm 550 erw ar bwys Felenrhyd. Gyda’i gilydd, mae’r safle yn cysylltu Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Coed y Rhygen a Cheunant Llennyrch ac mae’n rhan bwysig o dirwedd goediog Dyffryn Ffestiniog. Yn ogystal ag oddeutu 130 hectar o goetir, y rhan fwyaf ohono’n hynafol, mae’r eiddo’n cynnwys ardaloedd sylweddol o borfa asidig, porfa wedi’i led-wella, rhostir a thir corsiog, yn ymestyn hyd at 320m uwchlaw lefel y môr ar ymylon gogleddol mynyddoedd y Rhinogydd. Mae coed aeddfed mewn caeau a ffiniau o waliau cerrig sychion a beudai traddodiadol yn nodweddion pwysig o’r dirwedd amaethyddol hon. Calon Llennyrch yw’r ffermdy pedair llofft a’r beudai, lle caiff da byw (defaid a gwartheg duon Cymreig) eu corlannu. Mae Llennyrch yn cynnal praidd cynefin o tua thri chant o ddefaid mynydd Cymreig, sydd wedi addasu i amgylchiadau penodol y fferm dros lawer cenhedlaeth. Ar hyn o bryd, mae’r preiddiau yn crwydro’n helaeth ar draws y fferm a hefyd yn pori’r coetir yng Nghoed Felenrhyd dan drwydded er mwyn cynnal amodau optimaidd ar gyfer cennau a bryoffytau. Rheolir y pori gan ffermwr lleol dan denantiaeth busnes fferm. Mae hanes o reolaeth tra gwahanol i’r ddau goetir ar yr eiddo. Bu Coed Felenrhyd unwaith yn rhan o ystâd yr Oakeley a byddai wedi cyflenwi rhisgl derw ar gyfer trin lledr a choed ar gyfer adeiladu llongau, cyn i goed conwydd (cegid, llarwydd, cedrwydd, pyrwydd a ffynidwydd Douglas) gael eu plannu’n helaeth yno yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Cerfiwyd ffermydd bychain allan ar diroedd uwch, ond dim ond ambell i lannerch ac adfeilion y beudai cerrig sy’n dystiolaeth o’u bodolaeth erbyn heddiw. Hefyd, bu Rhododendron ponticum, llwyn addurnol eithriadol o ymledol, yn bla yng Nghoed Felenrhyd ar un adeg. Mae Coed Cadw a’i bartneriaid wedi gweithio’n raddol dros ddegawdau i leihau’r bygythiad i’r coetir hynafol gan gonwydd coedwigaeth trwchus a rhododendron ymledol. Mae coed llydanddail bellach ar gynnydd unwaith eto ar hyd a lled y coetir ac mae coed derw hŷn i’w gweld eto, wedi diosg eu gorchudd o gegid a phyrwydd. Ailsefydlwyd pori yma’n ddiweddar, i reoli llystyfiant garw a chystadleuol. Yn groes i hyn, mae’r pori yn Llennyrch yn dangos tystiolaeth o hanes hir o bori fel rhan o dirwedd amaethyddol, gyda natur agored iawn a dim llawer o isdyfiant nac aildyfu naturiol. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod llawer o’r derw tua’r un oed, ynghyd ag absenoldeb coed cyll yn rhai rhannau o’r goedwig, yn awgrymu bod cyfnodau o dorri coed neu reolaeth ddwys wedi digwydd yn y rhannau oddi wrth y ceunentydd serth, anhygyrch, efallai tua chyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Beth bynnag, cafodd y safle ei sbario rhag effeithiau niweidiol dulliau coedwigaeth planhigfa ar ôl yr Ail Ryfel Byd a phlâu rhododendron difrifol.

Cwm Doethie Temp 2 felynrhydpage

Mae naws anghysbell i’r goedwig, ac nid oes maes parcio penodol yma, er bod modd parcio mewn cilfach ger gorsaf bŵer hydro-electrig Maentwrog, neu yn y ganolfan ymwelwyr ar lan Llyn Trawsfynydd. Mae amrywiad ar
Lwybr Arfordir Cymru’n mynd trwy’r goedwig ym Maentwrog. O’r fynedfa hon, gall ymwelwyr gyrraedd rhwydwaith da o lwybrau mewnol er, o ystyried y dirwedd, gall llawer o’r llwybrau hyn gynnwys grisiau serth.
O’r dwyrain, gellir cyrraedd Llennyrch o argae Llyn Trawsfynydd, gan ddefnyddio’r rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus neu’r llwybr beicio newydd o gwmpas Llyn Trawsfynydd sy’n mynd trwy gornel o’r eiddo. 7 Coed
Felenrhyd a Llennyrch 3.0 GWYBODAETH MYNEDIAD I’R CYHOEDD Ceir mynediad ar gyfer gwaith rheoli ar lwybr coedwigaeth sy’n rhedeg i’r de o Goed Felenrhyd neu o’r ffordd gyhoeddus yn Llandecwyn. I’r rhai sy’n mwynhau teithiau cerdded hirach a golygfeydd geirwon, fodd bynnag, mae gan Goed Felenrhyd a Llennyrch lawer iawn i’w gynnig, gyda thirwedd fewnol amrywiol ac awyrgylch hudol, ynghyd â golygfeydd godidog o Eryri.

Loading map...

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr