Crynodeb Prosiect
Crynodeb Prosiect
Mae'r Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd wedi gweithio'n ddiflino ers mis Awst 2018, i wella, adfer a gwarchod y cynefin coedwigoedd glaw tymherus sy'n brin yn fyd-eang, mewn 4 Ardal Cadwraeth Arbennig ledled Cymru.
Wedi cynnal ein Cynhadledd Diwedd Prosiect ym Mhrifysgol Bangor yng nghanol mis Ebrill 2026, mi wnaethom ddangos ein Fideo Diwedd Prosiect am y tro cyntaf o flaen 150 o bobl o'r un anian, a oedd wedi dod ynghyd oherwydd cariad a rennir at y lleoedd hudolus hyn.
Roeddem yn ddigon ffodus i dywys Lisa Jên Brown, artist a cherddor lleol sydd wedi cael ei hysbrydoli gan y coetiroedd hyn, o amgylch rhai o'n safleoedd Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn ein Fideo Diwedd Prosiect.
Fideo Diwedd Prosiect
Mae'r ffilm hon yn arddangos cyflawniadau tîm bach o gadwraethwyr o 3 sefydliad gwahanol; Parc Cenedlaethol Eryri, RSPB Cymru a Choed Cadw; a geisiodd wneud gwahaniaeth ar raddfa tirwedd yng nghynefinoedd coedwigoedd glaw tymherus ledled Cymru.