Gweminar: Adfer coedwigoedd hynafol, ar gyfer tirfeddianwyr a chontractwyr coedwigoedd.
Sut y dylem reoli coetiroedd hynafol, yn enwedig y rhai sydd bellach wedi'u gorchuddio â phlanhigfa o gonwydd?
Ymunwch ag Adam Thorogood o Goed Cadw i ddarganfod mwy am adfer safleoedd coetir hynafol sydd wedi’u gorchuddio a phlanhigfa (PAWS) trwy'r prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd.
O fewn y gweminar yma; a ddyluniwyd ar gyfer perchnogion coetir hynafol neu gontractwyr sy'n gweithio safleoedd coetir hynafol; bydd Adam yn trafod sut i adnabod coetir hynafol a sut i lunio cynllun rheoli addas, yn ogystal ag edrych ar dechnegau a phrosesau coedwigaeth ymarferol a all ddiogelu a gwella cynefin y coetir hynafol wrth barhau i ddarparu llif o bren masnachol.
Bydd y gweminar yn canolbwyntio ar:
• Asesu cyflwr coetir hynafol
• Blaenoriaethu a chyflawni gwaith cychwynnol
• Gweithrediadau coedwig a gwarchod priddoedd coedwig
• Llunio cynllun rheoli tymor hir
Mae rhan o'r gweminar yn Gymraeg ond mae'r prif gyflwyniad yn Saesneg. Mae fersiwn Saesneg ar gael hefyd sydd yn cynnwys troslais cyfieithydd dros y darnau Gymraeg.
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr