Bywyd Gwyllt Arswydus i Gadw Llygad Amdano ar Noson Calan Gaeaf
Ar Hydref 31ain ar draws Cymru gyfan mae yna draddodiad hir o gynnal defodau ac arferion ar gyfer Noson Calan Gaeaf - pan fydd dim ond llen denau rhyngom ni a’r isfyd - Yr Annwfn. Y gred oedd y gallai eneidiau ymadawedig a bwystfilod bwganllyd grwydro ar ein lefel feidrol ni ar y nosweithiau hir a thywyll hyn… ond nid dyna’r unig bethau arswydus y gallech ddod o hyd iddyn nhw yng Nghymru'r hydref hwn!
Mae ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd tymherus yng Nghymru yn gartref i bob math o ddarganfyddiadau rhyfeddol a drygionus, oherwydd yr amodau toreithiog sy’n creu’r cynefin perffaith ar gyfer bywyd gwyllt prin. Beth am fentro allan i ymweld â choedwig law yn ystod tymor Calan Gaeaf eleni er mwyn dod o hyd i’r rhywogaethau arswydus isod…
Yr Ystlum Pedol Lleiaf Dysgu mwy yma
Un o sêr y sioe yn ystod Calan Gaeaf ac ar Noson Calan Gaeaf fel ei gilydd! Os edrychwch i fyny rhwng y coed yn y cyfnos, efallai y gwelwch un o’n hystlumod lleiaf yn y DU - yr Ystlum Pedol Lleiaf! Mae’n gwibio'n dawel o gwmpas y goedwig law i chwilio am bryfed i'w bwyta gan ddefnyddio ei drwyn wedi'i addasu'n arbennig a elwir yn ddeil-drwyn, mae'r Ystlum Pedol Lleiaf yn hongian ar ei ben-i-lawr gyda'i adenydd wedi'u lapio o amgylch ei gorff yn union fel Draciwla ei hun!

Ffwng Cyrn Gwyn Dysgu mwy yma
A’i eneidiau ceirw hynafol sydd wedi gadael olion yw’r ffwng hwn tybed? Os wnewch chi gwrcwd i lawr ac edrych yn fanwl ar lawr y goedwig, efallai y gwelwch chi Ffwng Cyrn Gwyn. Mae’r ffwng hwn yn debyg i gyrn ceirw. Mae hwn yn dibynnu ar bren marw sy'n pydru i oroesi.

Sgrech y Coed Ewrasaidd Dysgu mwy yma
Os ydych chi wedi clywed sgrech arswydus wrth grwydro un o'n Coedydd Derw, efallai eich bod newydd glywed Sgrech y Coed! Efallai bod y Sgrech yn swnio fel ysbryd dialgar, ond mewn gwirionedd mae'n arwydd o boblogaeth dderw iach, oherwydd mae’r aderyn hwn yn mwynhau mes blasus.

Llysiau'r Ysgyfaint Dysgu mwy yma
Gan edrych fel y meinwe erchyll sydd y tu mewn i ysgyfaint dynol, mae'r cen hwn sy'n ymdebygu i rai o’n horganau yn un o'r planhigion prinnaf y byddwch chi'n dod o hyd iddo mewn coedwig law. Ac yntau wedi’i ffurfio o gyfuniad Frankensteinaidd o ffwng ac algâu, mae Llysiau’r Ysgyfaint angen amgylchedd llaith i oroesi, ac fe welwch ei fod yn glynu wrth ganghennau ein coed hynafol.

Criafol Dysgu mwy yma
Ar y nosweithiau hir a thywyll o’n blaenau byddwch yn awyddus i sicrhau bod eich cartref a'ch da byw yn cael eu diogelu rhag unrhyw wrachod sy'n crwydro’r nos! Yng Nghymru ers tro byd mae yna draddodiad o blannu coed Criafol mewn mynwentydd. Mae hon yn goeden y gallech chi faglu ar ei thraws yn un o’n Coedwigoedd Glaw Celtaidd. Coeden i gadw ysbrydion a gwrachod afreolus draw yw hon. Mae aeron coch llachar y griafolen yn aeddfedu yn ystod y tymor arswydus hwn, ...defnyddiol iawn i amddiffyn eich cartref rhag cythreuliaid drygionus.
Os ydych chi’n ddigon dewr i fentro allan i archwilio ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd tymherus Cymreig yr hydref hwn, gallwch ddod o hyd i leoliadau eich coetiroedd agosaf yma… os meiddiwch chi! coedwigoeddglawceltaidd.cymru/lleoliadau-coedwig
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr