Newyddlen Coedwigoedd Glaw Celtaidd Rhif:8

English

Newyddlen Coedwigoedd Glaw Celtaidd Rhif:8

Gwanwyn ar y gweill...

Wrth i’r gaeaf ddod i ben yn raddol, y dydd yn ymestyn, a byd natur yn dechrau blaguro ei flodau gwanwyn, rydym ni ym mhrosiect Coedwig Glaw Celtaidd yn edrych ymlaen at haf o brysurdeb!

Byddwn yn mynychu gwyliau, sioeau ac yn trefnu teithiau cerdded, sgyrsiau a gweithgareddau tymhorol! Hefyd rydym yn edrych ymlaen at dreulio ychydig o amser yn y Goedwig Law Geltaidd!

Rydym wedi ffarwelio â staff, wedi ail-groesawu'r rhai sydd wedi bod ar famolaeth, creu cerddoriaeth, dysgu pob cenhedlaeth, ac mae llawer o waith dileu Rhywogaethau Ymledol Estron, ail-blannu coedwigoedd, a phori wedi'i gwblhau!

Darllenwch ymlaen i wybod mwy....

Gwaredu Rhododendron ger Rheilffordd Eryri

Rheilffordd Rhody Railway
Rheilffordd Rhody Railway

Ar hyd Rheilffordd Ucheldir a Ffestiniog Cymru (RhFFUC) o Feddgelert hyd at Ddyffryn Maentwrog cafodd Rhododendron ponticum (Rp) ei waredu’n llwyddiannus fel rhan o’r prosiect. Llwyddodd Gwasanaethau Cefngwlad Copa i gael y cytundeb gennym. Dywedodd Dave Bateson o Wasanaethau Cefngwlad Copa “roedd gweithio ar y cytundeb hwn mewn cydweithrediad â’r RhUFFC yn rhoi boddhad mawr, ond y rhan orau fu cael y cyfle i glirio’r rheilffordd drwy’r tirwedd yr ydym eisoes wedi bod yn clirio Rp, sydd yn agos i weddill y gwaith adfer cynefinoedd yn yr ardal hon”.

Dywedodd Rheolwr y prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd, Gethin Davies, “Weithiau gall cytuno ar waith rhwng dau sefydliad mawr gymryd llawer o amser. Yn yr achos hwn, cymerodd bron i ddwy flynedd o ddechrau'r trafodaethau i gontractio'r gwaith allan. Mae hwn wedi bod yn ddarn allweddol yn y jig-so sy’n ymwneud â rheolaeth Rp, ac mae’n ddilyniant i’w groesawu nid yn unig i’n prosiect ond hefyd i nifer o dirfeddianwyr sydd wedi gweithio’n galed i ddileu Rp o’u tir ger traciau RhUFFC.”

Darllenwch mwy  

Mae’r rheilffordd yn rhedeg drwy galon coedwigoedd glaw tymherus Meirionnydd - mewn mannau, mae’n mynd drwy’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig rydym yn anelu i’w gwarchod. Credir fod Rp wedi ei drin ar hyd oddeutu 25km o’r rheilffordd i gyd. Mae’r gwaith yn ffitio mewn i raglen llawer ehangach o fewn y prosiect i geisio gwaredu Rp oddi fewn coedlannau tymherus Meirionnydd, ac ardaloedd gyferbyn.

Mae unrhyw Rp sydd ddim yn cael ei drin hefo’r gallu i gynhyrchu had, ac felly’n gallu achosi tyfiant o’r planhigyn ymledol mewn ardaloedd cyfagos. Felly wrth drin yr Rp sydd ar hyd y trac, a chael gwared â ffynhonnell had allweddol, mae’n lleihau tebygolrwydd o ymlediad pellach yn y dyfodol.

Diolch i Dave Bateson Copa Countryside am y lluniau.

Angylion yn achub y Coedwigoedd Glaw Celtaidd gyda halo!

Halo
Halo

Ceir esiamplau hyfryd o goedwigoedd derw yn nhalgylch yr Afon Wnion ger Dolgellau, gan gynnwys ardaloedd gyferbyn â’r Afon Clywedog. Serch hynny, collwyd ardaloedd helaeth o’r coedlannau naturiol yma mor ddiweddar a’r 1950au, pan gliriwyd y gorchudd wreiddiol o goed, a'u disodli gan rywogaethau conwydd megis Cedrwydden (cedar) a oedd yn tyfu'n llawer gynt. Nid yw’r coed yma yn frodorol, ac yn cynnig llawer llai i fywyd gwyllt cynhenid i gymharu a’r coedlannau naturiol oedd yn tyfu yno cynt.

Darllenwch mwy  

Rŵan, er mwyn ceisio adnewyddu’r coedlan derw, rydym wrthi’n cael gwared o rai o’r coed conwydd gan ddefnyddio dull teneuo halo (halo thin), sef cwympo coed conwydd o amgylch y coed aeddfed brodorol sydd dal i dyfu ar y safle, a hynny er mwyn creu lle i’r coed yma dyfu’n ôl yn llwyddiannus, ac er mwyn caniatau i oleuni gyrraedd llawr y goedwig er mwyn cefnogi tyfiant coed derw ifanc. Y gobaith hefyd yw y byddai’r ecoleg naturiol yn cael ei adnewyddu dros gyfnod hir, gan ddod a chyflwr ecolgol y goedlan yn ôl i statws ffafriol. Mae’r broses o adnewyddu’r goedlan yn un araf iawn wrth gwrs, a gymerith ddegawdau a sawl cam o deneuo pellach cyn i’r goedlan edrych yn debygach i goedlan tymherus naturiol, ond rydym ni fel prosiect yn falch iawn o allu cychwyn y broses hir-dymor yma.

Uchod: Llun o gynaeafwr (harvester) o gwmni Forestry Services Ltd, Machynlleth, wrthi’n teneuo’r goedlan yn Nghoed Llwybr Caerynwch, Chwefror 2023.

Pori ger yr Afon Fawddach

Derw yng Nghoed Garth Gell
Derw yng Nghoed Garth Gell

Mae dau fustach yr ucheldir (highland cattle), wedi'u cyflwyno i dair rhan arall o goetir yn ardal aber yr Afon Fawddach. Mae’r prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn adeiladu ar waith ymchwil cafwyd ei wneud drwy prosiect LIFE blaenorol, sef y Rhaglen N2K LIFE (LIFE11 NAT/UK/385), lle bu tîm o ecolegwyr yn asesu pob safle Natura 2000 yng Nghymru er mwyn adnabod y brif bygythiadau i’r safleoedd yna. Un o’r materion a nodwyd fel bygythiad i’n cynefinoedd targed ni oedd tanbori (undergrazing) gan y gall hyn arwain at haen drwchus o fieri a rhedyn yn yr is-canopi, sydd yn gallu llethu planhigion blodeuol, adfywiad naturiol (natural regen) a poblogaethau o is-blanhigion sy’n ffynu yn y coedlannau yma. Gyda’r lefel gywir o bwysau pori, allwn gadw’r is-ganopi yn agored er budd cyflwr y coedlan.

Darllenwch mwy  

Mae gwartheg yr ucheldir, Derw a Ted, yn frîd cadarn sydd eisoes wedi pori ardaloedd eraill o'r Goedwig Law Geltaidd o amgylch yr Afon Fawddach. Oherwydd natur dawel y brȋd yma, maent yn addas iawn ar gyfer pori safleoedd gyda mynediad cyhoeddus. Er hynny, gall anafiadau neu afiechyd ddigwydd unrhyw bryd felly mae staff y prosiect a’r porwr yn gwirio’n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn iach.

Mae'r cynefin hefyd yn cael ei wirio'n rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod hefyd yn iach. Cyflawnwyd monitro gwaelodlin cyn cyflwyno’r gwartheg, a bydd llun-fonitro yn parhau bob chwarter trwy gydol y prosiect i sicrhau bod y pori yn cael yr effaith gywir, ac i’w addasu os angen.

Taith gerdded Bele’r Coed

Pine Marten
Pine Marten

I ddathlu dechrau Wythnos Awyr Dywyll Cymru (17 Ebrill 2023) fe drefnodd ein prosiect, daith gerdded tywys gyda’r nos ar y them Bele’r Coed (Pinemarten), a hynny yng Nghoed Ganllwyd ger Dolgellau. Mewn gwir ffasiwn Awyr Dywyll, roedd y tywydd yn sych ond cymylog – ac nid oedd un seren i’w gweld! Ond serch hyn, cafwyd noson hwyliog iawn lle bu Matt Davies o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent (Vincent Wildlife Trust) yn trafod hanes Bele’r coed yng Nghymru, sut y bu bron iddynt ddiflannu’n llwyr o’r wlad, a’r gwaith y mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent a phartneriaid yn ei gwneud i ail sefydlu poblogaethau o Fele’r coed mewn coedlannau yng Nghymru.

I ddysgu mwy am waith Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, ewch i https://www.vwt.org.uk/project...

Cerddorfa’r Coedwig Law Geltaidd

Be glywech chi yn y Coedwigoedd Glaw Celtaidd? Mae llawer o synau’r coedlannau tymherus (temperate) yn ymlaciol ac yn creu atmosffer ymwybyddiaeth ofalgar os cymrwch amser i’w wrando arnynt. Ym mis Chwefror, aeth criw o blant a’u rhieni allan i’r coedwigoedd yn Nyffrwyn Maentwrog i recordio ac arsylwi ar y synau y gallent glywed. Clywsom sŵn yr afon, yr adar, y glaw a sylweddoli beth oedd yn creu synau y Goedwig Law Geltaidd. Casglwyd darnau o goed a deunyddiau eraill o’r coedwigoedd, a gwnaethom offerynnau taro gyda nhw. Gwnaethom recordiad o eiriau gwahanol yn ymwneud â’r goedwig. Crëwyd stori allan o’r geiriau, ac yna cafwyd cyfansoddiad cerddorol ei pherfformio gan y plant. Aeth pawb adref a’u chalonnau’n llawn a llond pen o atgofion calonogol. Bydd y cyfansoddiad ar gael ar y wefan yn fuan.

Taith Gerdded y Tymor – Clychau'r Gog

Coed Garth Gell
Coed Garth Gell

Cynhelir taith gerdded y tymor hwn yn Llwybr Coed Garth-Gell ger Dolgellau, gyda seibiant am meddylgarwch a barddoniaeth. Ymunwch â ni i brofi clychau’r gôg ar eu gorau, eu lliw, eu siap a’u arogl. Mae'r safle'n gyfoethog mewn rhywogaethau dangosydd Coedwig Law Geltaidd ac yn creu dychymyg o chwedloniaeth a’r hen oesoedd. Dyddiad: 10fed o Fai 10yb – 13yh. Cyfarfod yn maes parcio Coed Garth-Gell. Dewch a diod/cinio a gwisgwch ddillad/esgidiau addas.

Hyd taith: 3-4 awr.

Cyfeirnod grif: SH683192

Archebwch le: https://www.eventbrite.co.uk/e...

Map o Coed Garth Gell
Map o Coed Garth Gell

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr