Arwyddion y Gwanwyn
Ar ôl gaeaf heb ddail a phrinder bywyd, mae'r goedwig law Geltaidd yn dod yn fyw. Fodd bynnag, y peth diddorol am y goedwig law Geltaidd yw bod y carped mwsoglyd yn cadw'r goedwig i ddisgleirio'n wyrdd hyd yn oed yn nyfnder y gaeaf. Yn y gwanwyn mae'r tapestri cyfoethog o fywyd yn llawnach fyth, gyda llawer o rywogaethau'n mentro allan.
Mae'r gwanwyn yn dechrau yn y calendr Seryddol ar 20 Mawrth, neu un diwrnod y naill ochr. Fe'i henwir yr equinox - pan ddaw golau dydd ac oriau tywyll yn gyfartal ac yn nodi diwrnod cyntaf y gwanwyn (neu'r hydref yn ddiweddarach yn y flwyddyn). Daw'r gair equinox o'r Lladin aequs (cyfartal) a nox (nos). Fodd bynnag, mae'r calendr meteoroleg yn rhannu'r flwyddyn yn chwarteri ar sail cylchoedd tymheredd blynyddol at ddibenion ystadegol. Mae'r calendr hwn yn diffinio gwanwyn fel dechrau ar 1 Mawrth ac yn para tan 31 Mai.
Er y diffiniad cywir, gall teimlad y gwanwyn o obaith a goleuni ddechrau pan ddaw'r eirlys cyntaf allan. Mae llawer o arwyddion y gwanwyn yn y byd naturiol yn ymddangos ym mis Mawrth.

Yn gyntaf efallai y byddwch yn sylwi ar eginblanhigion gwyrdd yn dod i'r amlwg o lawr y goedwig, arwydd sicr bod y gaeaf drosodd a bod y gwanwyn wedi dychwelyd. Eisoes ym mis Chwefror mae dail Garlleg Gwyllt cynnar yn blodeuo ac ym mis Mawrth bydd y blodau'n llenwi'r aer ag arogl llym, a bydd carped o flodau gwyn yn wledd i'r llygaid. Nid yw lliw yn brin chwaith, gyda Chennin Pedr melyn, briallu, a Llyrch y Llychlyn yn ychwanegu at y melysgybolfa o liwiau ar lawr y goedwig.
Ystyr Ebrill yn Lladin yw agoriad deilen, enw addas ar gyfer mis pan fydd bywyd yn dychwelyd yn llwyr i'n coetiroedd. Bydd Clychau’r gog yn dod i'r amlwg, sydd pob amser yn olygfa gwerth chweil. Mae'r blodau cynnar hyn yn ffynnu yn y golau toreithiog sydd ar gael yn gynnar yn y gwanwyn cyn i ganopi'r coetir ddod i'r amlwg yn llawn. Bydd coed yn dechrau blaguro dail ac yn dod allan o'u gaeafgwsg. Bydd dail ffres o’r Ddraenen Wen a’r Derw yn dechrau egino gan fywiogi llawr y goedwig. Bydd Catkins i'w gweld yn hongian o'r helyg. Bydd blagur cyll yn dod i'r amlwg yn gynnar ym mis Chwefror yn llawn bywyd.
Bydd gloÿnnod byw a gwenyn yn dechrau gwledda ar goed sy'n blodeuo'n gynnar fel y ddraenen ddu, ceirios gwyllt ac afalau cranc. Mae'r coed blodeuol cynnar rhain yn ffynhonnell ddefnyddiol o neithdar gyda'u blodau pinc a gwyn. Bydd rhywogaethau sy'n gaeafu fel Red Admiral ac Orange Tips yn hedfan i fyny ac i lawr yng nghanol blodau'r goedwig. wrth i'r gwanwyn fynd rhagddo. Mae glöynnod byw yn y DU wedi bod yn dirywio’n gyflym ers y 1970au (cadwraeth glöynnod byw). Felly, mae'r coed yma sy'n blodeuo'n gynnar yn dod yn fwyfwy pwysig yn ein tirwedd.
O ran y synhwyrau, efallai y byddwch yn clywed symffoni canu adar yn atseinio wrth i adar mudol fel y Siff-siaff a'r Telor Penddu ddychwelyd o Ewrop. Wrth i bryfed gael eu hadnewyddu, fe'u cyfarchir â gwledd i fagu eu cywion. Gellir clywed adar fel y tyngoch, y gwybedog brith, telor y coed. Bydd cnocell y coed yn taro i ffwrdd i nodi ei thiriogaeth a bydd sŵn siriol y gog i’w glywed.

O ran mamaliaid, bydd y draenog yn dod allan o’i orffwysfa aeafol, yn cropian yn araf ar hyd y ddaear, a bydd moch ddaer yn dod allan i fagu.
I ymuno a ni ar Daith Arwyddion y Gwanwyn yn Llwybr Clywedog, Dolgellau ar ddydd Gwener y 24/03/23 am 11:00, ewch i Taith Arwyddion y Gwanwyn i archebu lle
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr