Merlod Coed Crafnant

English

Merlod Coed Crafnant

Fideo Merlod Coed Crafnant

Mis yma wnaethon ni symud merlod Pixie ag Elan er mwyn iddynt bori rhan wahanol o’r safle Coed Crafnant, Ardudwy. Mae’r safle arbennig coedwig law Celtaidd yma dan oruchwyliaeth Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru felly rydym wedi bod yn gweithio ar y cyd er mwyn trefnu’r gwaith pori. Ymunwch gyda ni wrth i ni symud y merlod, cewch weld y gwaith rydym wedi gwneud trwy’r prosiect LIFE Coedwigoedd Glaw Celtaidd ar y safle a mwynhau rhai o’r rhinweddau arbennig y goedwig ryfeddol yma.

Ponies moving s
Ponies in the pen

Symud Merlod Coed Crafnant

Ymunwch i symud y merlod, Pixie ag Elan, sydd yn pori Coed Crafnant i ran arall o’r goedwig. Wrth ymuno cewch gipolwg o’r goedwig ryfeddol a’r gwaith isadeiledd mae’r prosiect wedi ariannu er mwyn galluogi pori ar y safle.

Mae’r safle arbennig coedwig law Celtaidd yma ger Llanbedr yn warchodfa natur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC) felly rydym wedi cydweithio er mwyn trefnu’r gwaith pori. Gwelwch Helen Upson (Swyddog Pori) sydd wedi arwain ar y gwaith ar y safle ar ran y prosiect LIFE Coedwigoedd Glaw Celtaidd.

Rob ponies and encloseure

Mae rheolwr y safle Rob Booth (YNGC) yn rhoi’r cyd-destun am y rhesymau pan da ni’n pori’r safle. Mae Anita Daimond (Swyddog Ymgysylltu prosiect LIFE Coedwigoedd Glaw Celtaidd) yn cyflwyno rhai o’r rhinweddau arbennig y safle. Hefyd wnewch gyfarfod Eurig Jones (YNGC) sydd yn cynorthwyo Rob Booth gyda’r gwaith ar y safle.

Gobeithio bod chi’n mwynhau gweld y merlod, gwaith rydym wedi gwneud trwy’r prosiect a rhai o’r rhinweddau arbennig y goedwig ryfeddol yma.


https://youtu.be/kPZWlVn9PN4


Rob and redstart box
Redstart sign s
Dog lichen s

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2026 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr