Newyddlen Coedwigoedd Glaw Celtaidd Rhif:9

English

Newyddlen Coedwigoedd Glaw Celtaidd Rhif:9

Hwyl fawr i Haf arall yn ein Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd...

Croeso i rifyn diweddaraf o Newyddlen ein Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd!

Ar ddiwedd ein pumed Haf, rydym wedi derbyn newyddion da o Ewrop, wedi cyd weithio â Phrosiect WaREN, ac mae'r Swyddogion Prosiect wedi bod yn brysur yn gweithio ar gynnydd thuag at gyflawni fwriad ein Prosiect.

Darllenwch i wybod mwy...

Cynnydd y Prosiect

Gyda’r prosiect wedi pasio ei bwynt hanner ffordd yn ddiweddar, a hynny ar ôl sicrhau estyniad o 2 flynedd yn gynharach eleni (gan fynd â ni i fis Gorffennaf 2027), fe gymerwyd y cyfle i fesur ein cynnydd yn erbyn rhai o’n targedau allweddol. Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd hyd yma, mae’r prosiect yn parhau i wneud cynnydd sylweddol, gyda rhai o’r uchafbwyntiau yn cynnwys:

- Sicrhau cytundebau i waredu Rhododendron ponticum âr 9,057.68ha o dir naill ai o fewn, neu gerllaw, ein coedlannau glaw tymherus;
- Hwyluso gwaith i adfer coetir ar 168.19ha o safleoedd coetir hynafol, gyda safle arall wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith y gaeaf hwn;
- Cyflwyno pori cadwraethol i 277.2ha o warchodfeydd coetiroedd glaw tymherus;
- Rhwydweithio gyda 12 o brosiectau eraill yn y DU ac Ewrop, wrth wneud hynny rhannu ein profiadau hyd yma gyda'r prosiectau hynny, a dysgu sut mae eraill wedi mynd ati i fynd i'r afael â rhai o'r pwysau a'r heriau sy'n ein hwynebu;
- Ymgysylltu â 6,829 o bobl drwy'r prosiect, gan gynnwys ysgolion lleol, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr, a gweithwyr proffesiynol o'r sector rheoli tir.

Mae cynnydd o’r fath yn dyst i waith caled staff y prosiect, a fydd yn gweithio’n ddiflino eto’r gaeaf hwn i barhau i adeiladu ar y llwyddiannau a gyflawnwyd hyd yma.

Mapgoll glan y dŵr
Mapgoll glan y dŵr

Darllenwch mwy  


Adfer Coetiroedd Hynafol ar Safleoedd Sensitif

Map o Llwybr Clywedog
Map o Llwybr Clywedog

Yn gychwyn y gwanwyn, roeddem wedi cyflawni gwaith yng Nghoed Llwybr Caerynwch drws nesa i Lwybr Clywedog yn Nolgellau.

Mae'r safle hwn drws nesaf i SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) Coedydd Dyffryn Wnion, ac felly roedd angen rhai trwyddedau a chaniatâd cyn dechrau unrhyw waith.

Adam Thorogood o Goed Cadw yng Nghymru oedd yn arwain ar y cytundeb, a defnyddiwyd y dull Teneuo Halo ar y safle i leihau faint o Sbriwsen Hemlog y Gorllewin a Chedrwydden Goch anfrodorol sy’n tyfu o amgylch coed llydanddail brodorol a geir yn y goedlan.

Nod y gwaith hwn yw dechrau cynllun hirdymor i leihau nifer y conwydd anfrodorol ar y safle. Mae hyn yn galluogi'r coed llydanddail brodorol sydd wedi'u gwasgaru o amgylch y blociau conwydd i ymledu, a'r cyfoeth o fywyd is-blanhigion i’w gael ar y safle cyfagos i ddychwelyd yn raddol. Y gobaith yw, os bydd y gwaith hwn yn parhau yn y weledigaeth hirdymor hon, y gall y safle hwn, yn y dyfodol, ddod yn goetir Coedwig Law Geltaidd o'r radd flaenaf!

I arddangos y rhaglen waith hon a dangos arfer gorau; mae gennym Ddiwrnod Arddangos wedi'i drefnu yno ar Hydref y 18fed. Mae’r diwrnod hwn yn agored i bawb felly os oes gennych ddiddordeb yng ngwaith PAWS, yn berchen ar goetir, neu â diddordeb yn yr ecoleg leol a bywyd planhigion is - ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.

Llwybr Clywedog
Llwybr Clywedog

Digwyddiadau Caslu Hadau Coed

Mae tymor hel hadau gwirioneddol wedi cyrraedd, ac fel prosiect rydym wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau casglu hadau.

Ar ddydd Sadwrn y 7fed o Hydref mi ymwelsom â Chwm Elan, a chasglwyd llawer o hadau Bedw, nifer o fes, gydag ychydig o ffrwythau’r criafolen, eirin bwlas, ac afalau surion.

Casglu Hadau yn Cwl Elan
Casglu Hadau yn Cwl Elan

Yn dilyn hyn roedd taith drwy bocedi o Goedwigoedd Glaw Celtaidd, cyn cyrraedd safle llwyr-gwympo conwydd cynharach, ble’r dosbarthwyd yr hadau a’r ffrwythau, yn y gobaith fydd rhai ohonynt yn egnio and yn rhoi hwb i’r safle are ei siwrne yn dychwelyd i goedlan dderw frodorol.

Yr tîm casglu hadau
Yr tîm casglu hadau

Mae rhagor o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ym Mwlch Corrog, Bethesda a Maentwrog. Ewch I’r wefan am ragor o wybodaeth: https://coedwigoeddglawceltaidd.cymru/events

Gwefan ag App Mapiwr INNS

Mae Gwefan ac App newydd wedi ei ddatblygu a’i lansio yn ddiweddar, fel siop-un-stop i adrodd cofnodion o Rywogaethau Anfrodorol Goresgynnol, yn ogystal ag unrhyw gynlluniau rheoli a thriniaeth yn Lloegr, Yr Alban a Chymru.

Wedi ei ddatblygu gan Fforwm Rhywogaethau Ymledol Sir Efrog, gyda mewnbwn gan Brosiect WaREN yr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, mae’r Mappiwr INNS am ddim i’w ddefnyddio, ac yn anelu i ddarparu ffynhonnell ddefnyddiol i adrodd ar INNS, a rhaglenni rheoli ac ymdrechion cydgysylltu.

Mae’r App a'r Wefan Mapiwr INNS ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac mae’r data sy’n cael ei gasglu yn y Mapiwr INNS gyda mynediad agored ac ar gael yn gyhoeddus i unrhyw un ddefnyddio. Rydym yn annog pawb i gymryd rhan drwy ddefnyddio’r Mapiwr INNS i roi gwybod am INNS a welwyd, ac os ydych ar Gyfryngau Cymdeithasol tagiwch ni gyda #RhodyHunters!

Ar gyfer y rhai sydd hefyd yn mynd allan i arolygu a rheoli INNS, megis grwpiau gweithredu lleol (LAGs) a chlybiau gwirfoddoli, mae’r Mapiwr INNS yn offeryn i adrodd a rhannu canlyniadau arolygon a gweithred rheoli, a fydd yn helpu i gydlynu rheolaeth effeithiol ar INNS dros y wlad.

Wrth symud ymlaen gobeithiwn gynnig diwrnodau hyfforddi ar y cyd â Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Chymdeithas Eryri - felly cadwch olwg ar ein cyfryngau cymdeithasol gogyfer y digwyddiadau hyn.

Treial Gwyddonwyr Dinasyddion Prifysgol Cwyntry

Ar gyfer Ddiwrnod Coedydd Glaw'r Byd ar yr 22ain o Fehefin, dyma ni a Phrosiect WaREN o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar y cyd â Phrifysgol Cwyntry, gynnal gweithdy i edrych ar sut gall Wyddonwyr Dinasyddion helpu i gofnodi effaith Rhywogaethau Ymledol Estron ar ein #CoedwigoeddGlawCeltaidd.

Gyda sesiwn cychwynnol yn y bora yn egluro’r rhaglen archwilio a’r prosesau i’w defnyddio, cawsom amser wedyn mewn coedlan leol, yn cofnodi ein canfyddiadau o fewn dau lain gwahanol ar ap arbennig. Sylwodd y mynychwyr yn syth y diffyg amrywiaeth is-blanhigion amlwg i’w weld o dan yr INNS megis Rhododendron neu Lawrgeirios wrth ei gymharu ag ardal prawf gwaelodlin - a oedd â helaeth o is-blanhigion i’w weld oddi mewn iddo.

Yn rhedeg tan ddiwedd Hydref 2023, edrychwn ymlaen at gael gwybod beth oedd y prosiect archwilio wedi ddarganfod.

Ymweliad Rhwydweithio Ymddiriedolaeth Genedlaethol Borrowdale

Yn gychwyn mis Medi, bu i ni groesawu tîm o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Borrowdale i Ogledd Cymru. Roeddem wedi trefnu 2 ddiwrnod llawn are eu cyfer, yn tarddu ar holl nodweddion y Prosiect, ac oedd sicr yn daith wib o amgylch ein Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd!

Ar y diwrnod cyntaf bu i ni ymweld ag Llwybr Coed Caerynwch ger Llwybr Clywedog yn Nolgellau. Edrychom ar waith PAWS (Planhigfeydd ar Goetiroedd Hynafol) ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (AoDdGA). Mae’r safle yn disgyn o fewn y safle Coedydd Dyffryn Wnion, yn ogystal i fod yn gynefin addas i bathewod, gan fod poblogaethau ohonynt i’w ddarganfod yn lleol. Mi ddaru ni drafod y prosesau oedd eu hangen wrth weithio ar safleoedd o bwysigrwydd ecolegol, cyfyngiadau trwyddedu, canfyddiad y cyhoedd ynghylch a’r gwaith, a gweithio i gynllun hirdymor sy’n ymestyn dros nifer o flynyddoedd.

Yn y prynhawn mi ymwelsom â safle Coed Garth Gell y RSPB ym Montddu, ac yma bu i ni edrych ar elfen Pori Gadwraethol o fewn y prosiect. Mi drafodwyd addasrwydd rhywogaethau pori, unrhyw faterion a godwyd, arferion orau a ffafriaeth pori - ac mi wnaethom gael gweld y gwartheg eu hunain yn ogystal!

Ar yr ail ddiwrnod mi ymwelsom â safle Hafodydd Brithion yn Nant Gwynant, ac yma roeddem yn ystyried elfen Rhywogaethau Ymledol y prosiect. Mi eglurwn sut oedd y prosiect yn adeiladu ar 30 mlynedd + o waith hanesyddol Rhododendron gan APCE yn y Cwm, sydd heddiw yn golygu bod ymwelwyr i’r ardal yn cael gweld enghreifftiau nodedig o Goedwigoedd Glaw Celtaidd yn lle Rhododendron llwyr! Roedd hefyd yn gyfle i drafod llwyddiannau’r prosiect megis cydweithio, ymgysylltu cymunedol, gwirfoddoli a digwyddiadau ymgysylltu.

Roedd yn ddeuddydd cynhwysfawr, a gobeithiwn fod tîm NT Borrowdale wedi gweld yr ymweliad yn ddefnyddiol - a hoffem ddiolch iddynt am ddod â’r tywydd braf gyda nhw!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr