Gwybodaeth i Athrawon
Mae’r pecyn hwn wedi ei gynllunio i helpu athrawon ddefnyddio’r coedwigoedd glaw yng Nghymru ar gyfer dysgu. Mae’r prif ffocws dysgu tu allan i’r ystafell ddosbarth fel rhan o ymweliadau i goedwigoedd os bosib. Ond yn ogystal, mae’n cynnwys nifer o weithgareddau a ffynonellau gwybodaeth bydd o’n bosib defnyddio yn yr ysgol ac ar dir yr ysgol fel rhan o weithgareddau uniongyrchol neu mewn cysylltiad ag ymweliad coedwig.
Mae’n cynnwys nifer o weithgareddau a fydd yn helpu disgyblion ddatblygu sgiliau amrywiol sy’n cyd-fynd â gofynion y Cwricwlwm i Gymru. Mae’n hyrwyddo dysgu trwy brofiad a trwy weithgareddau hwyl. Er bod y maes dysgu mwyaf perthnasol yw Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mae hefyd yn cynnwys dysgu am Y Dyniaethau. Mae’r adnoddau yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion defnyddio mathemateg a rhifedd mewn cyd-destun ymarferol gan gynnwys hel a dadansoddi data. Mae’n cyd-destun diddorol ar gyfer archwilio a datblygu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ac sy’n agor y llenni ar gynefin ysbrydol sydd yn gyfoethog mewn blas, gwead a lliw ar gyfer prosiectau creadigol. Mae bod yn weithgor yn yr awyr agored a datblygu cysylltiad â natur yn elfennau pwysig o Iechyd a Lles.
Mae’r adnoddau wedi strwythuro gan ddefnyddio penawdau ymchwilio sydd i’w weld ar y ddewislen o dan y teitl Addysg ar y prif far dewis. Sef:
- Cyflwyno’r Goedwig Law Celtaidd
- Beth yw Coedwig Law Celtaidd?
- Beth sydd yn arbennig am Goedwig Law Celtaidd?
- Pa greaduriaid sy’n byw yn y Goedwig Glaw Celtaidd?
- Sut mae angen gofalu am y Goedwig Glaw Celtaidd?
Mae’n bosib chwilio trwy’r adnoddau gan ddefnyddio’r tabiau ar y dde er mwyn darganfod gweithgareddau addas ar gyfer ymweliad maes, ymchwil ar-lein, gwaith ymarferol, defnyddio dulliau creadigol, rhannu dysgu, neu gychwyn ymgyrch.
Gan ddefnyddio’r dull gall disgyblion gweithio tuag at Wobr John Muir, sydd yn ffordd hyblyg i adnabod llwyddiant cyfranogwyr sydd y darganfod, archwilio a gwarchod llecyn gwyllt ac sydd yn rhannu eu profiad.
Mae’r tudalen ‘Adnoddau’ yn galluogi chwilio am adnoddau gan ddefnyddio geiriau allweddol.
Mae rhan fwyaf y tasgau yn addas ar gyfer disgyblion 9–12 oed ond maen nhw’n cynnwys dolennau fel medr disgyblion hyn neu fwy galluog yn cael ei annog i ymchwilio rhywogaethau a chysyniadau ymhellach. Mae croeso i athrawon addasu’r wybodaeth ar gyfer plant ifengach neu lai galluog. Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer amryw o weithgareddau a gemau i gyd-fynd â’r ymchwiliadau, ynghyd â sleidiau a fideos ar gyfer defnyddio gyda dosbarth. Cewch hefyd eu defnyddio er mwyn datblygu eich gwybodaeth a hyder i gyflwyno’r pwnc i ddisgyblion neu wrth ddarparu am ymweliad.
Gwelwch y diagram isod er mwyn helpu chi penderfynu sut fedrwch chi blethu’r gwahanol weithgareddau mewn cylch ymchwil, a/neu sut fedrwch ddefnyddio Coedwig Law Celtaidd fel llecyn gwyllt er mwyn gweithio tuag at y Wobr John Muir.

Cewch atebion i ychydig o'r gweithgareddau yma
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr