Diwrnod Rhyngwladol Coedwigoedd y Cenhedloedd Unedig 2024

English

Diwrnod Rhyngwladol Coedwigoedd y Cenhedloedd Unedig 2024

Bob blwyddyn, mae gan Diwrnod Rhyngwladol Coedwigoedd thema phenodol, a thema eleni yw "Coedwigoedd ac Arloesi: Atebion Newydd ar gyfer Byd Gwell".

"Mae arloesi a thechnoleg wedi chwyldroi monitro coedwigoedd, gan alluogi gwledydd i ddilyn ac adrodd ar eu coedwigoedd yn fwy effeithiol." Diwrnod Rhyngwladol Coedwigoedd

Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am y ffyrdd y mae arloesi wedi ein helpu ni yma yn y Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd...

Cynlluniau Gweithredu Nitrogen Safle (SNAPs)

Mae arloesedd wedi arwain at welliannau ar sut rydym yn adrodd ar statws iechyd ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd

Ar ddechrau’r prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd, fe wnaethom gomisiynu Cynlluniau Gweithredu Nitrogen Safle, er mwyn nodi ffynonellau lleol, rhanbarthol, a ffynonellau nitrogen atmosfferig cyffredinol pellach i ffwrdd, sy’n cael effaith andwyol ar gyflwr ecolegol ein coedwigoedd glaw tymherus yma yng Nghymru. Mae’r cynlluniau hyn, gan ddilyn fframwaith drafft DEFRA, yn fecanweithiau i feincnodi lefelau Nitrogen ar unrhyw safle penodol, yn yr achos hwn y 5 Ardal o Gadwraeth Arbennig wedi eu cynnwys o fewn ein prosiect.

Rhaeadr Ddu Ganllwyd
Rhaeadr Ddu Ganllwyd

Er bod mynd i’r afael ar Nitrogen atmosfferig ehangach yn deillio o newidiadau cyffredinol megis lleihau’r defnydd o danwydd ffosil, gellir ymdrin â ffynonellau Nitrogen lleol; megis gwasanaethau trin dŵr, diwydiant lleol ac amaeth; drwy sefydlu camau gweithredu rhagweithiol. Drwy gasglu gwybodaeth gan amryw o asiantaethau, nododd yr awduron ffynonellau nitrogen lleol posibl, nodi beth oedd yn eu hachosi ac awgrymu camau lliniarol y gellir eu gweithredu i leihau’r bygythiad lleol i’r cynefinoedd arbennig hyn.

Defnydd drôn ar gyfer Tirfesur

Ffordd arall rydyn ni wedi defnyddio arloesedd o fewn y prosiect yw trwy ddefnyddio Drônau - System Awyr wedi'i Pheilota o Bell (SAPP) - i gynnal arolygon Rhododendron ponticum ar safleoedd penodol o fewn y prosiect.

Peilot y Drôn yn Hafodydd Brithion
Peilot y Drôn yn Hafodydd Brithion

Peiriannau bychain i ganolig ydi Drôns gan amlaf, gellir un ai eu rhaglennu ymlaen llaw neu eu hedfan trwy orchmynion o bell gan beilot. Mae ein Drôn yn cael ei hedfan gan ddefnyddio rheolydd llaw (yn debyg iawn i reolwr consol gemau) sydd â sgrin ynddo. Rhaid i’r peilot allu gweld y Drôn bob amser, a chadw at “God Ymddygiad Dronau ac Awyrennau Model” yr Awdurdod Hedfan Sifil y DU.

Maent yn ddull rhagorol o arolygu dros ardaloedd eang, sy’n amrywio o gyforgorsydd a ffriddoedd i geunentydd ger afonydd. Mae defnyddio drôn yn lleihau’r amser sydd i angen i arolygu safleoedd health yn sylweddol, a gellir ei ddefnyddio hefyd mewn ardaloedd na allwn gael mynediad iddynt ar droed!

Cynhelir yr arolygon hyn fel arfer ym mis Mehefin - pan fo'r Rhododendron Ponticum yn ei flodyn, ac mae'r planhigyn yn wahanol i'r llystyfiant arall o'i gwmpas oherwydd ei flodau porffor toreithiog.

Coleri GPS Da Byw

Teclyn arall rydym wedi ei ddefnyddio yw coleri digidol “Digitanimal” ar y Gwartheg Ucheldir sydd gennym yng ngwarchodfa natur RSPB Coed Garth Gell ym Montddu. Mae'r coleri hyn yn defnyddio technoleg GPS ac wedi'u rhaglennu i anfon gwybodaeth am leoliad i ffôn symudol. Maent felly’n hynod ddefnyddiol wrth wneud gwiriadau da byw, gan leihau’r amser a dreulir yn chwilio am yr anifeiliaid ar unrhyw safle penodol - sy’n arbennig o dda ar safle mawr ac amrywiol. Er, yn yr un modd ag unrhyw dechnoleg sy'n defnyddio GPS - fe all fod gwallau yn y signal mewn rhai ardaloedd, felly mae’n rhaid ystyried hyn wrth ystyried defnyddio’r math hwn o dechnoleg.

Tarw yr Ucheldir Ifanc o dan Goeden Dderw yn y Gaeaf
Tarw yr Ucheldir Ifanc o dan Goeden Dderw yn y Gaeaf

Gall y coleri hefyd anfon neges rhybudd os nad yw’r anifail yn symud yn gyson - a gall y ffermwr gynnal hapwiriad i weld a yw’r anifail wedi’i anafu neu’n sâl. Yn amlach na pheidio bydd unrhyw rybudd oherwydd difrod i'r goler, gan amlaf am fod yr anifail yn crafu! Yn anffodus rydym wedi cael achlysur pan dderbyniwyd neges rhybudd yn arwain ni at anifail oedd wedi cael damwain ac wedi mynd yn sownd rhwng wal a choeden a oedd wedi cwympo.

Darllenwch mwy  

Yr ail fath o goler GPS a ddefnyddiwn yn y prosiect yw coleri “NoFence”. Rydym yn defnyddio’r coleri hyn ar Eifr sydd gennym yn pori ar safle RSPB Gwenffrwd Dinas yn Llanymddyfri. Mae'r dechnoleg hon yn defnyddio GPS ac ap ar eich ffôn symudol i reoli lle gall y geifr fynd o fewn y safle - heb fod angen gosod yr isadeilwaith o giatiau a ffensys ar y ddaear. Mae'n gweithio trwy roi cyfres o synau clywadwy cynyddol wrth i'r anifail agosáu at y ffin "digidol", gan roi curiad trydanol bach iddynt os ydynt yn croesi'r ffin. Buan mae'r anifail yn dysgu troi rownd wrth glywed y rhybudd o hynny ymlaen. Y fantais o ddefnyddio'r system hon (yn enwedig ar anifeiliaid sy’n arbennig o dda am ddianc - megis geifr!!), yw y gallwch chi newid y safle pori ar-lein, gan ganiatáu pori dwys neu achlysurol ar unrhyw ardal bori arbennig.

Marcio Ffin â GPS

Un her a wynebwyd gennym yn ddiweddar wrth osod cytundeb mawr yn ardal Nant Gwynant, oedd sut i rannu llain tir yn ardaloedd hylaw o dan gontract.

Roedd hwn yn un o'r ardaloedd olaf â dwysedd mawr o'r rhywogaeth ymledol estron Rhododendron ponticum yn y dyffryn, ac roedd felly'n bwysig i ni ei drin.

Rhododendron ponticum yn ei Flodyn yn Eryri
Rhododendron ponticum yn ei Flodyn yn Eryri

Mae hon yn ardal fynydd eang, gyda diffyg ffiniau megis waliau a ffensys, a dim ond rhai tonniadau ar y ddaear sydd ar gael ar gyfer dyrranu'r safle. Ar ôl cryn dipyn o grafu penn, fe wnaethom gyflogi system sy'n cyfuno defnydd o Ap GPS gyda'n rhaglen feddalwedd QGIS fewnol, i rhannu'r parsel tir yn ddigidol, fel bod gan gontractwyr gopi o ffin eu ardal gwaith pan allan ar y tir

Wrth i arloesedd barhau i ddatblygu, bydd newidiadau pellach yn y ffordd yr ydym yn defnyddio technoleg yn y frwydr i achub y cynefinoedd coedwigoedd glaw tymherus gwerthfawr hyn, sef ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd

#IntlForestDay #InternationalForestDay #dayofforests2024

21 March International Day of Forests
21 March International Day of Forests

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr