Cytgan y Wawr yn y Coedwigoedd Glaw Celtaidd
Mae Cytgan y Wawr yn arwydd cyfarwydd o'r Gwanwyn sydd i ddod. Ar ôl y gaeaf hir tywyll, mae lefelau golau yn cynyddu ac rydym yn dod yn ymwybodol o'r adar y tu allan i'n ffenestri.
Gan ddechrau ym mis Mawrth gydag ychydig o berfformwyr cynnar, mae Cytgan y Wawr yn cyrraedd ei uchafbwynt yng nghanol mis Mai ac yn trydaru ffwrdd ym mis Mehefin, er efallai y byddwch yn dal i glywed cân y gwrywod ymhell i mewn i’r Haf os ydyn nhw wedi methu â denu cymar!
Mae'r boreau cynnar yn amser arbennig pan fo'r ddaear yn llonydd ac yn dawel. Mae hyn yn golygu y gall cân adar gario hyd at 20 gwaith ymhellach, gan gynyddu'n aruthrol y siawns y byddant yn dod o hyd i bartnar.
Dyma fideo gan yr RSPB ar sut i wrando ar Cytgan y Wawr y goedwig...

Y Robin Goch (2-4 eiliad) yw'r ysgogydd yn aml, yn
dechrau canu ar yr arwydd cyntaf o'r golau sy'n dod, hyd at awr cyn i’r haul godi. Mae eu cân yn ffansïol a phen syfrdanol, gydag amrywiaeth o ran hyd, cywair a sŵn.
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/103121

Mae'r Dryw (4-6 eiliad) yn gyfres o chwibanau a driliau, yn byrlymu i fyny ac i lawr o ran gywair a nodyn, gyda chyfartaledd o tua 10 sillaf i'r pennill
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/791908

Mae’r Fwyalchen, a’r fronfraith yn ymuno’n fuan, pan fyddwn ni yn canfod ei bod dal yn dywyll, a’u galwadau melodaidd yn arwydd o’r diwrnod newydd, yn aml yn ein deffro o’n cwsg.
Mae cân y Fwyalchen yn chwibaniad melodig cywair isel, ynn eithaf uchel a hyderus, a dydyn nhw ddim yn dueddol i ailadrodd eu penillion.
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/795892
Mae'r Fronfraith, (1–2 eiliad) ar y llaw arall, yn ailadrodd cymal dwy i bedair gwaith, cyn symud ymlaen i'r cymal nesaf eto gan ailadrodd y dôn newydd hon ddwy i bedair gwaith. Maent yn aml yn dewis cangen yn is i lawr llwyn neu goeden i ganu ohoni.
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/780798
Mae cân y Brych y Coed (Turdus viscivorus) yn debyg i gân y Fwyalchen, gyda llai o amrywiaeth yn y cywair. Fodd bynnag, mae’r ymadroddion yn llawer byrrach - fel pe bai’n cael ei ymyrryd ar ganol y gân, yn anghofio beth roedd yn ei ganu ac yn canu un arall yn lle!
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/778176

Wrth i’r diwrnod gyrraedd mae adar eraill yn ymuno, fel hwtio nodedig yr Ysguthan “Take twooo cows, Susan”.
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/778248
Mae amryw o'r Titw, a dau o'r rhai mwyaf nodedig yw galwad y Titw Mawr sy'n dynwared “Teacher Teacher Teacher”.
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/791907
Ac mae'r Titw Penddu yn galw sŵn “wii-jii wii-jii wii-jii”.
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/790183
Os ydych chi’n ddigon ffodus i fod mewn lleoliad Coedwig Law Geltaidd ar gyfer Corws y Wawr o ganol mis Ebrill ymlaen, byddwch chi’n cael pleser o glywed yr adar sy’n ymweld â ni yn yr Haf, fel y Tingoch, y Teloriaid a Gwybedog Brith.
Mae’n debyg mai’r gog yw’r galwad mwyaf nodedig gan ganu ei henw ei hun drosodd a throsodd, fel arfer o ddechrau i ganol mis Ebrill ymlaen, pan fyddant wedi dychwelyd o Affrica i atgenhedlu ar ein glannau.
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/798572

Gyda chân debyg i ymadroddion Robin Goch mae'r Tingoch yn tueddu i fod yn benillion byrrach. O fis Ebrill ymlaen byddan nhw’n canu o frig y coed, gydag alaw sy’n felys a gobeithiol, gyda dau neu dri o ymadroddion yn cael eu hailadrodd, gan ddechrau’n uchel a thrydar i ffwrdd.
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/728032

Aderyn sydd â chân nodedig iawn yw Telor y Coed. Gan amlaf bob yn ail rhwng galwad “piuu-piuu-piuu” a sain dril disgynnol nodweddiadol o’r fath mewn gêm fideo, sy'n dechrau'n araf ond yn cyflymu'n sydyn wrth iddo ddisgyn.
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/653919

Mae cân Telor yr Helyg yn sain drist, galarus a hylifol yn dechrau gyda chrescendo ac yna’n disgyn i lawr drwy’r nodau, yn debyg iawn i ddŵr yn llifo i lawr nant sy’n baldorddi. Unwaith y byddwch chi wedi meistroli'r gân hon, mae'n hawdd ei hadnabod eto.
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/794502
Mae’r aderyn dal pryfed yma, y Gwybedog Brith yn swnio fel “I’m late, i’m late, zee-wit, zee-wit” ac yna “zee-zee”, er eu bod yn hoffi amrywio’r ddau nodyn olaf , dim ond i ddrysu ni!
Gwrandewch yma: https://xeno-canto.org/602455

Y ffordd orau i ddod i adnabod y caneuon yw pigo un neu ddau o adar gwahanol, gwrando arnyn nhw ychydig o weithiau ac yna mynd allan i eistedd a gwrando ar gytgan y wawr. Fel hyn byddwch chi'n gallu adnabod y penillion o'r cymysgedd o ganeuon adar y gallwch chi eu clywed. Beth am eu recordio a thagio ni os ydych chi'n eu rhannu ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol? Rhowch wybod i ni sut rydych chi'n gwneud!
Gallech hefyd ymuno â ni ar ein Taith Gerdded Corws y Wawr ar ddydd Gwener y 12fed o Fai; am fwy o wybodaeth ewch i'n tudalen digwyddiadau: https://coedwigoeddglawceltaid...
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr