Adolygiad 2023 Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd
Gan edrych yn ôl ar 2023, mae’r Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd unwaith eto wedi cael blwyddyn lawn o ddigwyddiadau, cydweithio a chamau llwyddiannus yn y frwydr i achub ein cynefinoedd coedwigoedd law tymherus yma yng Nghymru.

Rheoli Rhywogaethau Ymledol – Astudiaeth Achos Rhododendron ponticum
Wedi derbyn gwahoddiad i gyflwyno diwrnod arddangos i staff a phartneriaid Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dorset (nawr yn Dirwedd Cenedlaethol) ar reoli Rhododendron ponticum, fe aeth Swyddogion Prosiect ymweld â nhw ym mis Ionawr.

Mi wnaethom egluro cymhlethdodau’r gwaith, yn amrywio o asesiadau safle, ystyriaethau ecolegol a chaniatâd angenrheidiol o bosib; i’r prif ddulliau i’w rheoli, yn ogystal â manteision ac anfanteision y dulliau gwahanol, gan ychwanegu ystyriaethau am effaith amser y flwyddyn ar bethau megis adar yn nythu neu arwyddion llwyddiant y driniaeth yn dilyn y gwaith.
Yn dilyn i dros 30 mlynedd o waith Rhododendron gan Barc Cenedlaethol Eryri, mae’r Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn argymell rhaglen o driniaeth o 3 gam dros 5 mlynedd, i ddifa’r Rhododendron oddi ar safle.
Wrth ledaenu'r neges hon mae gobaith y bydd rhagor o fudiadau yn gallu cael i’r afael ar ddifa Rhododendron ponticum are u safleoedd.

Ai cwmwl di hwnna...
I ddathlu Wythnos Awyr Dywyll Cymru, mi wnaethom drefnu Sgwrs Bele'r Coed a thaith cerdded Awyr Dywyll Prosiect Nos yng Nganllwyd, Dolgellau ym mis Chwefror. Mewn gwir amodau Awyr Dywyll, roedd y tywydd yn rhyw fanlaw a chymylog - a ni ellid gweld unrhyw sêr! Felly ddaeth ein taith Awyr Dywyll yn Daith Bele'r Coed!!
Roedd yn noson wych ble trafodwyd hanes y Bele yng Nghymru gan Matt Davies o’r Ymddiriedolaeth Natur Vincent: Sut yr oeddent bron yn ddiflanedig yng Nghymru a sut bu waith yr YNV a’i bartneriaid ail-sefydlu poblogaethau o’r Bele i goedwigoedd yng Nghymru, a'u gwasgariad dilynol.
I gael gwybod mwy am yr Ymddiriedolaeth Natur Vincent a’u gwaith ewch i https://www.vwt.org.uk/project...

Gweithio ar Safleoedd Sensitif
Dechreuodd ein gwaith mawr diwethaf ar Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol yng Nghoed Llwybr Caerynwch, ger Llwybr Clywedog yn Nolgellau yn gynnar yn y flwyddyn.
Roedd hwn yn safle diddorol gan ei fod yn gorwedd o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionnydd ehangach, a hefyd SoDdGA Coedydd Dyffryn Wniwn (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig), ac felly mae angen rhai caniatâd wrth gwblhau unrhyw waith yn yr ardal.

Er mwyn gwarchod cyfanrwydd y goedwig, mae’r gwaith hwn yn weledigaeth hirdymor, gyda theneuo “halo” coed conwydd wedi’u cyflwyno yn raddol oddi amgylch yr ychydig o goed llydanddail dyfalbarhaus, gan roi amser i’r coed brodorol hyn addasu i unrhyw newidiadau yn lefelau gwynt, newidiadau golau a gwahaniaethau lleithder – gan amddiffyn y coetiroedd rhag sioc.
Mae'n deimlad gwych pan fydd perchnogion coetiroedd yn cytuno â ni am ateb mor hir dymor i adfer a gwarchod ein
Coetiroedd Hynafol brodorol.
Diwrnod Arddangos Adfer Coetir Hynafol
Fe wnaethom hefyd gynnal Diwrnod Arddangos Adfer Coetir Hynafol ar Safleoedd Sensitif yma ym mis Hydref, gan arddangos y gwaith da a gwblhawyd hyd yn hyn.
Dechreuon ni gyda chyflwyniad byr i’r safle ac yna cafwyd dau weithdy yn ystod y dydd:
1. Ymarferoldeb Adfer Coetir Hynafol ar safleoedd sensitif a gyflwynwyd gan Adam Thorogood o Coed Cadw Cymru, a Callum Campbell y Contractwr a gwblhaodd y gwaith ar y safle gan Forestry Services Ltd.
2. Ecoleg Coedwigoedd Glaw Tymherus yng Nghymru, a'r angen i'w hadfer Dave Lamacraft arbenigwr is-blanhigion o Plantlife Cymru, a Sabine Nouvet o RSPB Cymru
Roedd yn ddiwrnod hynod ddiddorol ac yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o’r un anian sydd naill ai’n gweithio yn y diwydiant neu sydd â diddordeb mewn safleoedd Coetiroedd Hynafol.

Cymorth gan Wirfoddolwyr!
Fe wnaethom hefyd drefnu Diwrnod Gwirfoddolwyr yng Nghwm Gwynant gyda dwy sesiwn ar wahân gyda Chymdeithas Eryri - un sesiwn yn mynd i’r afael â Phidyn-y-Gog Americanaidd, ac ail sesiwn yn mynd i’r afael â Rhododendron ponticum.
Cafodd y Sgunk Cabbage Americanaidd ei gloddio'n fecanyddol, ac oherwydd ei fod yn hoffi tyfu mewn amodau gwlyb roedd y gweithgaredd hwn yn fwdlyd iawn!

Roedd y gwaith Rhododendron ar safle Hafodydd Brithion - un o’r lleoliadau diwethaf sydd â phla o Rododendron ddwys yn Nant Gwynant, ac mi fyddem yn mynd a gwaith ar y safle allan i tender yn y flwyddyn newydd.
Wrth symud ymlaen i 2024, rydym yn gweithio ar sawl modiwl hyfforddi, gan gynnwys un a fydd yn hyfforddi gwirfoddolwyr ar gofnodi Rhywogaethau Ymledol Estron. Bydd y rhain yn sail i fodiwlau pwrpasol o fewn Cynllun Llysgenhadon Eryri ar goedwigoedd glaw tymherus Cymru. Edrychwch allan am y modiwl unigol gwerthfawr hwn yn y flwyddyn newydd.
Ysbrydoli Ecolegwyr, Naturiaethwyr a Choedwigwyr y dyfodol
Roedd ein Sesiynau Addysgol Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn parhau, a’r safle mwyaf deheuol sydd wedi’i gynnwys yn ein Prosiect - Gwenffrwd Dinas RSPB Cymru ym mis Mai. Mae’r elfen yma o ein gwaith prosiect yn cael ei ddarparu gan Antur Natur, cwmni lleol sy’n cynnig sasiynau addysgol a gwersi natur yn yr awyr agored.

Croesawyd disgyblion Ysgol Rhys Pritchard a Llangadog o ardal Llanymddyfri, gan ddod â’r plant allan o’r dosbarth ac i mewn i’n Coedwigoedd Glaw Celtaidd i ddysgu am y goedwig a’r adar sy’n gwneud y cynefin hwn yn gartref iddynt.
Cynhaliodd Anita o Antur Natur hefyd ddigwyddiad Hyfforddiant Athrawon yn Nhre’r Ddol, gan roi arweiniad a gweithgareddau y gall Athrawon fynd â nhw yn ôl i’w hysgolion a’u rhoi ar waith wrth ddod â’r dosbarth allan i fyd natur.
Mae cyfanswm o 1563 o blant a phobl ifanc a 195 o Athrawon, Cynorthwywyr Addysgu neu rhai sy’n gweithio yn y maes wedi elwa o’r Sesiynau Addysgol Coedwigoedd Glaw Celtaidd hyn, yn erbyn targed gwreiddiol o 800.
Diolch yn fawr iawn i Anita Daimond o Antur Natur am ei gwaith ar yr elfen yma o fewn ein Prosiect

Gwyddonwyr Dinesyddion yn helpu ar Ddiwrnod Coedwigoedd Glaw y Byd!
Ar yr 8fed o Fehefin fe wnaethom groesawu Diwrnod Coedwigoedd Glaw’r Byd, diwrnod i “ddathlu pwysigrwydd coedwigoedd glaw iach, sefydlog, ar gyfer hinsawdd, bioamrywiaeth, diwylliant a bywoliaeth”
Gan weithio ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a Phrifysgol Cwyntry, fe wnaethom gynnig sesiwn “Dewch yn Wyddonwyr Dinasyddion!” ym Metws-y-Coed, a oedd yn bwydo data i ymchwil ôl-ddoethuriaeth gydag Oluwadunsin Adekola PhD.
Roedd y sesiwn yn cynnwys dyrannu 2 sgwâr prawf 3x3 metr i gyfranogwyr; un yn glir o rywogaethau ymledol a'r llall gyda rhywogaeth ymledol, ac yna roedd yn ofynnol iddynt nodi rhywogaethau eraill o blanhigion o fewn pob sgwâr.
Roedd pawb ar y sesiwn yn gallu gweld pa mor niweidiol oedd rhywogaethau ymledol fel Rhododendron ponticum a Cherry Laurel i'r bywyd is-blanhigion brodorol.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddarganfod beth mae'r ymchwil wedi'i ddarganfod ar ôl ei gwblhau.

Rhagor o Arian i ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd!
Mae Dŵr Cymru, ein partneriaid yng Nghwm Elan a RSPB Cymru, wedi gwneud cais llwyddiannus am arian o’r “Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd” (TWIG) - i gynnal gŵyl i godi ymwybyddiaeth a dathlu coedwigoedd glaw Celtaidd Cymru, ond yn y pen draw i adfer darn o Goedwig Law Tymherus gerllaw ardal y mae ein Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd eisoes wedi cwblhau gwaith arno!
Dyma newyddion gwych i gyflwr Coedwigoedd Glaw Celtaidd yng Nghwm Elan!

Dihangwyr Gerddi
Ym mis Awst buom ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cyflwyno sesiynau Dihangwyr Gerddi.
Nod y sesiynau hyn oedd “ymgysylltu â garddwyr i nodi ac atal ‘goresgynwyr y dyfodol’…[gan fod]… mae planhigion gardd addurnol sy'n ymledu o erddi, yn un o brif ffynonellau rhywogaethau anfrodorol ymledol”.
Roedd yn gyfle i arddwyr ystyried yr hyn maen nhw’n cyflwyno i’w gerddi, i adnabod ac atal 'ymledwyr y dyfodol'
👉 Ewch at wraidd y mater...
🌱 Nabod eich planhigion
🛑 Atal y lledaenu
♻️ Compostio gofalus
Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.nonnativespecies.o...

Rhwydweithio
Yn yr Hydref croesawyd tri sefydliad gwahanol o bob rhan o Brydain ac Iwerddon i Ogledd Cymru: Ymddiriedolaeth Genedlaethol Borrowdale o Ardal y Llynnoedd / Parc Cenedlaethol Glenveagh o Ogledd-orllewin Iwerddon a thîm cymysg o Natural England.

Mae digwyddiadau rhwydweithio fel y rhain yn hanfodol i feithrin perthnasoedd proffesiynol, ehangu rhwydweithiau personol, a chael mynediad at wybodaeth a/neu adnoddau gwerthfawr.
Mae'n darparu cyfleoedd i gwrdd â gweithwyr proffesiynol eraill mewn meysydd tebyg, i rannu syniadau, i ddysgu am y tueddiadau diweddaraf ac i glywed am wahanol dechnegau a ddefnyddir ar gyfer gweithiau a phrosiectau tebyg.
Diolch i bawb oedd â diddordeb mewn dysgu mwy am ein Prosiect Coedwig Law Geltaidd.

Casglu Hadau Coed
Mae’r hydref hefyd yn Dymor Hadau Coed, ac fe wnaethom ni ynghyd ag Coed Cadw Cymru, RSPB Cymru a Dŵr Cymru Cwm Elan groesawu gwirfoddolwyr oedd â diddordeb mewn casglu hadau coed yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
Roedd yr hadau coed a gasglwyd yn amrywio o Fes trwchus i hadau coed bedw bach tebyg i gonffeti, i ffrwythau coch y Ddraenen Wen (yr oedd cymaint ohonynt eleni!!).

Yng Nghwm Elan wedyn cawsom y dasg o ddosbarthu'r hadau a gasglwyd; ar ddarn arall o dir o fewn y Dyffryn, gan ddarparu ffynhonnell Hadau Coed yn y gobaith y bydd rhai o'r hadau yn egino ar y safle.
Gyda'r hadau eraill byddant yn cael eu cludo i Feithrinfeydd Coed lleol, megis un Parc Cenedlaethol Eryri, i'w tyfu fel coed o darddiad lleol, sydd wedi esblygu i rai amodau, ac sydd felly yn fwy addas i'w plannu mewn ardaloedd penodol.


#asset:22124:url" width="300" alt="Casglwyr Hadau Cwm Elan" data-image="u94zrwaw7l2x"><figcaption>Casglwyr Hadau Cwm Elan</figcaption></figure>
Mappiwr INNS
Lansiwyd ap a gwefan Mappiwr INNS yn llwyddianus yn ddiweddar..
Mae'n adnodd mynediad agored rhad ac am ddim i'w ddefnyddio a'i nod yw darparu ased effeithiol i gefnogi rhaglenni gwaith Rhywogaethau Estron Goresgynnol a chydlynu ymdrechion. Mae data a adroddir i INNS Mapper ar gael yn gyhoeddus i unrhyw un ei ddefnyddio, ac mae dilysu INNS gan gymheiriaid yn symleiddio'r broses ddilysu.
Ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, cynhaliom nifer o ddigwyddiadau Mapiwr INNS i dynnu pobl i mewn, ac i ledaenu’r neges am yr adnodd rhad ac am ddim gwerthfawr hwn yn y frwydr barhaus yn erbyn Rhywogaethau Ymledol Estron.
I gael rhagor o wybodaeth am yr adnodd newydd cyffrous hwn, ewch i’r wefan neu lawr lwythwch yr ap: https://innsmapper.org/home

Rhagfynegi
Wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn, roedd cyfle i edrych yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni eleni, lle’r ydym ar hyn o bryd a hefyd lle rydym am fynd y flwyddyn nesaf.
Fe wnaethom gymryd yr amser i ragweld pecynnau gwaith sydd i ddod ac yr ydym yn disgwyl eu rhoi allan dros y 6 mis nesaf, gan gadw llygad ar y gyllideb sy'n weddill wrth i ni ddechrau ar 6ed blwyddyn y Prosiect.
Dros y misoedd diwethaf mae'r Swyddogion wedi dyfarnu 14 o gytundebau newydd i 6 chwmni lleol, gyda chyfanswm o 35 cam waith yn dod i gyfanswm o £65,407.00 ar gyfer difa Rhododendron ponticum yn ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd.
Diolch!
Diolch o galon i bob un ohonoch am eich cefnogaeth barhaus, oddi wrth bob un ohonom yma ym Mhrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE!!
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!
