Taith gerdded y mis
Taith gerdded y mis – Coed Cymerau (Coed Cadw)
Dyma ardal wych o gynefin coed derw brodorol mewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol, peth ohonno yn hynafol iawn. Os oes gennych lens llaw, ewch a hi gyda chi i gael golwg agosach ar y llu o is-blanhigion bychain sydd i’w gweld ar y hyd y waliau ac i fyny’r boncyffion.
Mae ambell i daith gerdded wahanol yn bosibl yn y lleoliad hwn - ond dyma ddisgrifiad o’r daith symlaf sydd gyda llwybrau eithaf graddol gydag ambell i allt. Mae’n bosibl cwblhau’r daith hon mewn oddeutu 1 awr.
Pellter: Tua 3km
Amser: Tua 1 awr
Graddfa: Cymedrol
Dechrau/diwedd: Cilfan ger yr A496, i’r de o bentref Tanygrisiau
Cyfleusterau: Cyfleusterau cyffredinol ar gael ym Maentwrog neu Flaenau Ffestiniog
Cyfeirnod grid: SH 691 427
Map perthnasol: Arolwg Ordnans 124 Porthmadog & Dolgellau / OL 18 Harlech, Porthmadog & Y Bala
- Parciwch yn y gilfan oddi ar yr A496, tua milltir i’r de o bentref Tanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog.
- Ewch trwy’r giât mochyn ac ar y chwith fe welwch gychwyn y llwybr troed. Ymhen ychydig fe welwch yr hen waliau sydd wedi eu gorchuddio gyda phob math o fwsoglau a chennau gwanhaol.
- I fyny’r allt raddol ac yna byddwch yn disgyn i lawr at fforch. Dilynwch y llwybr sy’n mynd lawr i’r chwith.
- Ymhen ychydig funudau, fe ddewch at lan yr Afon Goedol. Yma mae ceunant gwerth ei weld, a safle gwych i gymryd pum munud i werthfawrogi’r twmpathau mwsogl rhyfeddol dan draed.
- Ewch yn ôl i fyny’r un llwybr at tua hanner ffordd; yma fe welwch y llwybr yn fforchio - ewch i’r dde fyny at y gamfa.
- Dros y gamfa a chadwch i’r chwith. Edrychwch ar ganghennau bendigedig y coed hynafol – pob un a lliwiau gwahanol o gennau.
- Ychydig nes ymlaen ac fe welwch fainc - lle da i gymryd seibiant i werthfawrogi’r Manod Mawr. Os edrychwch yn ofalus fe welwch linell o wenithfaen gwyn yn rhedeg trwy’r graig.
- Heibio i hen feudy nesaf, cartref i’r ystlum pedol lleiaf, creadur prin sydd i’w weld yn hela pryfetach liw nos.
- Fe ddewch at giât arall, ewch i lawr i’r dde gan ddilyn y trac. Gwrandewch ar adar bach y goedwig - y gwybedog brith, telor y coed neu’r tingoch.
- Byddwch hefyd yn clywed sŵn y dŵr yn rhuthro i lawr Rhaeadr Cymerau. Os hoffech ei weld, yna trowch i’r chwith a dilyn y llwybr am ychydig funudau nes dewch at y bont - golygfa werth ei gweld.
- Dychwelwch yn ôl yr un ffordd at y trac, a’i ddilyn i’r chwith i ddod nôl at y man parcio.
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr