Sgwrs am goed - Dod i adnabod… Celyn

English

Sgwrs am goed - Dod i adnabod… Celyn

Mae coediwgoedd glaw tymherus Cymru yn glytwaith o rywogaethau coed a’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt.

Mae ein coetiroedd Cymreig yn hollol hyfryd i grwydro drwyddynt, ond wrth gwrs maent yn gartref i lu o rywogaethau sy'n tyfu arnynt, oddi tanynt neu'n byw yn eu plith. O gennau a bryoffytau i adar ac ystlumod, yr union amrywiaeth a’r dyfnder hwn o fioamrywiaeth sy'n gwneud y cynefinoedd arbennig hyn mor bwysig. Mae dysgu am y gwahanol fathau o goed yn ein coedwig law yn rhoi darlun i ni o’r rhywogaethau sy’n cydfodoli â nhw, yn ogystal â deall sut mae ein cymunedau lleol wedi byw ochr yn ochr â nhw ers cannoedd o flynyddoedd.

Un o sêr y coetir gaeafol yw’r Celyn, Ilex aquifolium, sef coeden fytholwyrdd sy’n disgleirio’n llachar yn y misoedd oerach gyda’i aeron coch amlwg sy’n boblogaidd gydag adar yn ystod cyfnodau o rew. Mae’n adnabyddus am ei ddail pigog gwyrdd sgleiniog, ac fe all y cymeriad pigog hwn dyfu i 15 metr a byw am 300 mlynedd. Felly efallai bod y cawr y dewch chi o hyd iddo yn y goedwig fod wedi byw yno ers yr oes Fictoria!

Gyda’i ffrwythau a’i ddrain carismatig, mae’r goeden gelyn wedi’i phlethu â llên gwerin Cymreig a Cheltaidd. Oherwydd ei dail bytholwyrdd, roedd celyn yn cael ei weld fel 'rheolwr' hanner tywyllach y flwyddyn a daeth yn rhan annatod o straeon a thraddodiadau y Nadolig megis dod â chelyn i mewn i'r cartref. Mae ganddo hefyd gysylltiad hirsefydlog â’r tir, gyda ffermwyr yn aml yn defnyddio’r cewri hynafol hyn fel canolbwynt nodedig gydol y flwyddyn i sefydlu llinellau gweld ar gyfer aredig yn y gaeaf.

Mae Celyn yn rhan bwysig o’n Coedwigoedd Glaw Celtaidd. Mae'n rhywogaeth allweddol yn y cynefin ' 91A0', sy’n gynefin o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) y mae ein prosiect yn canolbwyntio arno i'w warchod a'i adfer fel ardal sy'n gyfoeth gwirioneddol o Goedwigoedd Glaw Celtaidd. Mae'r cynefin ACA hwn hefyd yn gartref hefyd i goeden nodedig iawn mewn llên gwerin Celtaidd, sef y dderwen mes ddigoes.

Gallwch ddod o hyd i gelyn yn y lleoliadau canlynol…Lleoliadau Coedwig | Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru

Celyn / Holly / Ilex aquifolium

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr