Cystadleuaeth ffotograffiaeth
I ddathlu cynefin prin a gwerthfawr Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru, rydym wedi lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth gyda gwobrau gwerth chweil, wedi'i noddi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Cambrian Photography. Rydym eisiau gweld pob agwedd ar y coedwigoedd glaw - o fyd bychain y mwsoglau i'r coed hynafol a'r rhaeadrau, dewch a phob dim!
Oherwydd Covid-19 rydym wedi ymestyn y dyddiad cau i 30ain Ebrill 2021 fel bydd cyfle i fwy o bobl ymweld â’n coedlannau hyfryd a chael eu hysbrydoli i gymryd rhan. Pa agwedd o’r goedwig law sydd yn diddori chi?

Gwobrau gwych
Categori Oedolion: Gwobr 1af: £500 2il wobr: £250 3ydd gwobr: £100
Categori dan 16: Gwobr 1af: £250 ynghyd â diwrnod o hyfforddiant gan Cambrian Photography. 2il wobr: £100 3ydd gwobr: £50
Bydd ennillwyr y gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi yn ystod Gŵyl Amgylcheddol Caernarfon ym Mis Medi 2021 lle bydd hefyd arddangosfa ffotograffiaeth a bydd staff Cambrian Photography wrth law i roi cyngor.
I gystadlu, plis anfonwch gopiau digidol o'ch lluniau at post@coedwigoeddglawceltaidd.cymru neu defnyddiwch wasanaeth trosglwyddo ffeiliau. Dyddiad cau ar y 30ain Ebrill 2021. Un llun i bob cystadleuwr.
Am fanylion llawn y gystadleuaeth cliciwch y PDF isod.
Lawrlwythiadau
Cystadleuaeth ffotograffiaeth rheolau v6 2020 | Agor |
Efallai hoffwch wylio'r gweminar Saesneg yma 'The Art of Wildlife Photography' gan Ben Porter cyflwynwyd yn fis Hydref 2020. Gwerth gwylio ar gyfer bach o ysbrydoliaeth, syniadau neu dechnegau?
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2021 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr