Hwyluso Adfer Coetiroedd o Goed Conwydd

English

Hwyluso Adfer Coetiroedd o Goed Conwydd

Un o gamau gweithredu ein prosiect #CoedwigoeddGlawCeltaidd yw “hwyluso adfer coetiroedd o goed conwydd”, ac mae gennym becyn gwaith ar fin dechrau gyda Forestry Services Limited, mewn coetir preifat drws nesaf i Lwybr Caerynwch ychydig du allan i Ddolgellau.

Mae'r rhan gyfan goediog o'r safle yn gorwedd o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Coedydd Derw Meirionnydd a hefyd yn ffurfio rhan o SoDdGA Coedydd Dyffryn Wnion.

IMG 20230105 WA0002 1200 x 900

Wedi’i nodi fel ardaloedd sydd yn cael eu hadnabod fel PAWS (Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol) ac RAWS (Safle Coetir Hynafol wedi’i Adfer), mae rhai darnau eithaf trwchus o fewn y coetir Hemlog y Gorllewin a Chedrwydd coch gorllewinol.

Mae'r rhannau isaf sy’n nes at geunant yr afon, yn cynnwys y cynefin fwyaf gyfan rhannol naturiol sy'n cynnal coetir derw digoes, ynn a bedw gydag isdyfiant celyn a chyll. Mae rhywfaint o fygythiad i'r safle hefyd gan ffawydd aeddfed mawr oherwydd sbwriel dail, gor-gysgodi ac ail-hadu.

IMG 20230105 WA0001 900 x 900

Mae ein gwaith yn anelu at deneuo’r coed llydanddail brodorol o fewn yr adrannau hemlog a chedrwydd, ac yn y pen draw dod â’r coetir yn ôl i reolaeth gadarnhaol, gan hwyluso adfywiad yr isdyfiant brodorol ac aildyfiant coed brodorol yn y dyfodol.

Bydd y gwaith teneuo hwn yn cael ei wneud yn ofalus ac yn sensitif a bydd yn cynyddu lefelau golau yn y coetir, gan greu amodau gwell dros amser ar gyfer y cennau coetir prin a geir o fewn y SoDdG

IMG 20230105 WA0003 1200 x 1200

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr