Datganiad i'r wasg

English

Datganiad i'r wasg

DATGANIAD I’R WASG

12fed Rhagfyr 2019

Gwartheg yn gweithio i warchod y Coedwigoedd Glaw Celtaidd

Mae staff prosiect fel rheol yn fodau dynol – ond nid dyma’r achos pob tro, wrth i brosiect LIFE Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru ddefnyddio gwasanaeth Connor, y bustach du, fel aelod hanfodol o’r tȋm! Yn gweithio gyda phâr o wartheg cochion yr Ucheldir, a adnabyddir fel ‘Yr Efeilliaid’, mae’r tri wedi bod yn pori safle Coed y Parc yr RSPB ac wedi symud yn ddiweddar i warchodfa’r RSPB yng Nghoed Garth Gell er mwyn gwella statws cadwraethol y coedwigoedd derw hynafol sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.

Mae hanes hir o bori yn y coetiroedd hyn, ac mae hyn wedi arwain at ddatblygiad nifer o’n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr a chyfoethog mewn bywyd gwyllt. Yn y gorffennol diweddar, cafodd gormod o bori effaith andwyol ar lystyfiant, a chafodd coetiroedd eu ffensio i ffwrdd er mwyn atal porwyr yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, byddai ychydig neu ddim pori yn y coetiroedd yn cael effaith negyddol yn y pen draw, gyda chynnydd mewn mieri, eiddew a rhedyn – gormod o’r rhain ac fe fyddent yn dominyddu llawr y goedwig ac yn niweidiol i lystyfiant eraill megis y casgliadau gwerthfawr o gennau a bryoffytau sydd yn y coetiroedd godidog.

Cydnabyddir bellach fod pori cadwraethol yn ddull effeithiol o reoli cynefin coetir cynhenid. Cafodd Ystad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nolmelynllyn, Ganllwyd, lwyddiant mawr yn adfer eu coetir trwy ddefnyddio gwartheg yr Ucheldir dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru yn gobeithio efelychu'r llwyddiant hwn ar safleoedd eraill sydd wedi’u dewis yn ofalus ar draws ardal y prosiect. Fodd bynnag, mae cadw gwartheg pori ar safleoedd yn dod a’i heriau ei hun - mae fel rheol yn golygu nifer fach o anifeiliaid dros ardal fawr, felly rhaid treulio cryn dipyn o amser yn chwilio amdanynt, ynghyd â monitro eu heffaith ar y llystyfiant! Mae hefyd angen sicrhau cydwysedd rhwng defnydd hamdden, y da byw a’r bywyd gwyllt sy’n ei alw’n gartref, er budd pawb.

Meddai Helen Upson, Swyddog Pori gyda phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru:

“Dwi’n falch iawn o weld y gwartheg cyntaf yn cael eu hailgyflwyno fel rhan o’r prosiect, ac maent yn cael effaith wych yn barod. Mae gwartheg yr Ucheldir yn frîd Prydeinig cynhenid, yn addas i’r hinsawdd leol a’r dirwedd serth a garw. Maent yn dawel a dof ar safleoedd sydd gyda mynediad cyhoeddus fel rheol, ond rydym yn atgoffa ymwelwyr i roi digon o le iddynt, ac i’r rhai gyda chŵn i reoli eu hanifeiliaid yn briodol. Os ydych yn gweld y gwartheg pan ewch am dro, yna beth am ein tagio yn eich lluniau @coedceltiadd”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu Grant Seilwaith Gwyrdd gwerth £2 filiwn, gan alluogi'r bartneriaeth i ddenu £4.5m arall gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy eu rhaglen LIFE Natur a Bioamrywiaeth.
  2. Arweinir y prosiect gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar ran partneriaeth sy'n cynnwys RSPB Cymru, Coed Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru.
  3. Elfen allweddol o'r prosiect yw cael gwared ar Rododendron ponticum o'r tu mewn i'r coetiroedd, a'r clustogfeydd o'u cwmpas. Mae'r planhigyn estron goresgynnol hwn yn atal llystyfiant brodorol, gan greu amodau sy'n anffafriol i fywyd gwyllt arall. Yn benodol, mae'r planhigyn yn atal golau haul rhag cyrraedd llawr y coetir, atal eginblanhigion derw ifanc rhag ymsefydlu, a goresgyn planhigion brodorol eraill.
  4. Mewn rhai safleoedd, mae'r gorchudd trwchus o goed conwydd a gyflwynwyd wedi bod yn taflu cysgod dros bridd y coetir hynafol oddi tano, gan atal y blodau gwyllt a lleihau'r ystod o bryfed ac adar a fu unwaith yn ffynnu yno. Fel rhan o'r prosiect, bydd planhigfeydd conwydd yn cael eu teneuo i annog rhywogaethau brodorol i ailsefydlu.
  5. Amcan craidd arall y prosiect yw gwella rheolaeth tir mewn coetiroedd dethol, trwy gyflwyno pori fel offeryn rheoli mewn rhai safleoedd. Bydd gwartheg, defaid a merlod yn cael eu cyflwyno i rai meysydd fel y bo'n briodol, ac i hyrwyddo arfer gorau trwy arddangos y gwaith hwn trwy astudiaethau achos a digwyddiadau.
  6. Disgwylir i bedair ardal wledig ledled Cymru elwa. Dyma'r ardaloedd sy'n lleol i bum Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA): ACA Eryri, ACA Coed Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionnydd, ACA Coed Cwm Einion, ACA Coetiroedd Cwm Elan a ACA Cwm Doethie - Mynydd Mallaen.
  7. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llinos Alun, Swyddog Ymgysylltu, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 01766 772214 neu e-bostiwch llinos.alun@eryri.llyw.cymru

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF

© 2019 - 2020 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr