Fideo ‘Pori Cadwraethol mewn coedlannau cynhenid’ yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yng Nghynhadledd Bioamrywiaeth Cymru
Perfformiwyd y daith goetir rhithiol hon am y tro cyntaf yng Nghynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ym mis Tachwedd. Rydym yn dangos peth o'r gwaith isadeiledd ymarferol a wnaed hwyluso pori yn Goed Garth Gell fel rhan o'r prosiect er mwyn drafod manteision ac anfanteision y mathau hyn o isadeiledd. Rydym yn cynnwys lluniau o'r gwartheg yn pori yn y coed, strwythur y coetir yr ydym yn anelu ato trwy bori ac enghreifftiau o’r strwythur interim y goedwig fel mae’n cael ei phori.
Gellir gweld y cyflwyniad llawn sy'n darparu'r cyd-destun ehangach ar wefan a sianel YouTube Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.
Mae'r fideo yn addas ar gyfer y rhai sydd â diddordeb cyffredinol mewn coetiroedd ond yn arbennig o ddefnyddiol i berchnogion coetiroedd a rheolwyr coetiroedd.
Am ragor o wybodaeth am Goed Garth Gell cliciwch yma

Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2021 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr