Newyddlen Coedwigoedd Glaw Celtaidd Rhif:7
Fel mae'r Hydref yn nesáu, dyma drosolwg o beth gyflawnodd ein Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd dros yr Haf!
Wedi i’r cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio rydym wedi bod yn mynychu digwyddiadau ym mhobman dros yr Haf a bu’n rhaglen llawn dop o gyfarfod a chyfarch pobl!
Rydym wedi ffarwelio â staff a chroesawu cydweithwyr newydd, rydym wedi dathlu pen-blwydd mawr, mae ein rhaglen addysgol wedi dechrau o ddifrif ac fe fuom yn ymweld â Chynghrair Coedwigoedd Glaw'r Alban a threfnu nifer o Weithdai Rhywogaethau Ymledol Estron gyda Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru er mwyn hyfforddi pobl ar sut i fod yn Erlidwyr Rhody cyflawn!
Darllenwch i wybod mwy...
Ffarwelio â chyd-weithwyr a chroesawu aelodau newydd
Mae’r tîm Coedwigoedd Glaw Celtaidd wedi gweld llawer o newidiadau!
Yn gyntaf, ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom ffarwelio â Helen, Swyddog Pori RSPB y prosiect, pan symudodd i weithio gyda Chyngor Sir Amwythig fel Swyddog Prosiectau Clawdd Offa.
Yna, yn y gwanwyn fe wnaethom ffarwelio â Georgia ein Swyddog Prosiect Cynorthwyol, a oedd wedi ymuno â ni yn wreiddiol ar leoliad Graddedig, a Stephanie, ein Swyddog Cyllid ac Ymgysylltu RSPB.
Mae Georgia wedi llwyddo i gael swydd barhaol fel Technegydd Pysgodfa ar Ynys Môn, tra bo’ Steph wedi symud i weithio i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn rôl debyg ar Brosiect LIFE 4 Afon. Diolch enfawr i’r tri ohonoch am eich gwaith gwerthfawr i’r Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd, dymunwn y gorau i chi yn eich swyddi newydd!
Ond, er gwaethaf colli aelodau o’r tîm, mae’n hyfryd cael croesawu pedwar swyddog newydd i’r prosiect:
- Mae Emma Sweenie wedi ymuno â ni mewn rôl Swyddog Cyllid a Gweinyddol, gan gefnogi’r RSPB i gyflawni’r prosiect yn yr ardaloedd deheuol.
- Mae Pip Gray wedi dechrau gyda’r RSPB mewn rôl Swyddog Ymgysylltu, gan gefnogi gwaith y Swyddogion Ymgysylltu eraill gyda ffocws penodol ar ardaloedd deheuol y prosiect.
- Mae Matt Brown hefyd wedi dechrau gyda'r RSPB fel Swyddog Prosiect Cynorthwyol. Bydd Matt yn cymryd yr awenau dros agweddau o waith Helen, tra'n cefnogi Julia a'r tîm ehangach gyda'u rhaglenni gwaith.
- Ac yn olaf, mae Cai Roberts wedi ymuno ag APCE mewn rôl newydd fel Swyddog Monitro a Chydymffurfiaeth, lle bydd yn cefnogi'r swyddogion prosiect gyda'u portffolio helaeth o gontractau.
Croeso mawr i’r pedwar ohonoch i'r tîm!
Sesiynau Addysgol
Trwy raglen addysgol ein Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd, mae Anita Daimond o Antur Natur wedi bod yn mynd â grwpiau ysgol allan i goetiroedd. Maen nhw wedi bod yn dysgu am y gwahanol goed, planhigion y coetir, cennau, mwsoglau a natur arbennig y Goedwig Law Geltaidd trwy eu profiadau a'u harsylwadau eu hunain.
Ar un achlysur roedd plentyn yn y dosbarth angen cymorth symudedd ac am ein bod yn gallu defnyddio tramper APCE, fe alluogodd hyn i ni i gynnwys yr holl ddosbarth yn y wers gan sicrhau mynediad cyfartal i’r Goedwig Law i bawb 😊
Dros yr wythnosau nesaf, fe fydd hi’n mynd â disgyblion allan a bydd rhai yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rheoli llystyfiant ar rai safleoedd. Diolch i’n partneriaid prosiect; APCE, Coed Cadw, RSPB, YNGC/NWWT a Dŵr Cymru; am eu caniatâd a’u cefnogaeth i ddefnyddio eu safleoedd.
Mae digwyddiad hyfforddi athrawon sy'n agored i weithwyr addysg proffesiynol eraill wedi cael ei gynnal yn y Ganllwyd drwy gyfrwng Gymraeg, bydd un drwy gyfrwng Seasnig i ddilyn. Anfonwch e-bost at anita@anturnatur.cymru i archebu eich lle.

Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr