Atal Rhywogaethau Ymledol Estron rhag Dinistrio Ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd
Mae Rhywogaethau Ymledol Estron wedi gwneud difrod ar iechyd ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd, y goedwig law dymherus sy’n brin fyd-eang a elwir hefyd yng Nghoedlannau Derw’r Iwerydd.
Mai’n Wythnos Rhywogaethau Ymledol wythnos yma, digwyddiad byd-eang i godi ymwybyddiaeth am beryglon rhywogaethau ymledol a sut i’w hatal rhag difrodi ein hecosystemau gwerthfawr.
Yn y blog yma byddwn yn trafod beth yw’r bygythiadau a achosir gan rywogaethau ymledol, a’r hyn y gallwn ei wneud i achub ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd rhag dinistr pellach, cawn glywed am brosiectau llwyddiannus yn y frwydr yn erbyn Rhywogaethau Ymledol Estron, a beth allwch chi wneud i ein helpu ni i fynd i’r afael arnynt

Beth yw rhywogaethau ymledol?
Mae “rhywogaethau ymledol” yn cyfeirio at blanhigion, anifeiliaid, ffyngau a micro-organebau anfrodorol, sydd wedi'u cyflwyno i ardal y tu allan i'w hamrediad naturiol, unai’n fwriadol neu'n ddamweiniol. Maent yn cystadlu yn erbyn rhywogaethau brodorol am adnoddau megis dŵr, golau'r haul a maeth, gallent ledaenu clefydau, difrodi cynefinoedd, yn ogystal ag achosi difrod i ecosystemau naturiol, bygwth rhywogaethau sydd mewn perygl, lleihau bioamrywiaeth, lleihau cynnyrch cnydau, a chynyddu cost rheoli eu lledaeniad. Amcangyfrifwyd bod y gost i economi’r DU bron yn £1.9 biliwn y flwyddyn!
Mae rhywogaethau ymledol yn fygythiad difrifol i ymdrechion cadwraeth, yn enwedig y fflora isaf ein sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau yn ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd.
Mae rheoli lledaeniad rhywogaethau ymledol ac atal cyflwyno rhai newydd, yn hanfodol yn ein brwydr i amddiffyn natur. Drwy fod yn wyliadwrus ynghylch a rhywogaethau ymledol, a mynd ati i reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â’u presenoldeb, gallwn ddiogelu ein cynefinoedd naturiol, sicrhau bioamrywiaeth, a hyrwyddo ecosystem fwy cynaliadwy. Drwy gydweithio a chefnogi ymdrechion cadwraeth, gallwn leihau effaith rhywogaethau ymledol a chadw ein coedwigoedd glaw Celtaidd i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.

Dwi'n siwr fysa'n well gennych y mathau hyn o goedwigoedd llawn Clycha'r Gôg yn hytrach na'r Rhododendron ponticum tywyll trwchus?
Sut maen nhw'n dinistrio ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd?
Un o'r prif rywogaethau ymledol sy'n achosi niwed sylweddol i'n Coedwigoedd Glaw Celtaidd yw'r Rhododendron ponticum ofnadwy. Wedi’i gyflwyno i Brydain yn y 1700au, ac yn ffefryn mawr i Dai Gwledig Fictoraidd, mae’n ffynnu o fewn yr hinsoddau i’w darganfod yn ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd ac wedi dod yn bla ar y tir.
Ystyrir bod Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol (INNS) neu IAS Rhywogaethau Ymledol Estron yn ymledol oherwydd eu bod yn cystadlu'n well na phlanhigion neu anifeiliaid brodorol am adnoddau ac yn meddiannu eu cynefin. Mae Rhododendron ponticum yn llwyn sy'n tyfu'n gyflym ac sy'n gallu cyrraedd uchder o hyd at ddeg troedfedd. Gall un llwyn gynhyrchu hyd at filiwn o hadau. Unwaith y bydd eu cangen yn cyffwrdd â'r ddaear, gallant wreiddio yn y fan a'r lle, gan roi hwb i'r cryfder a'r pellter y gallant ledaenu ymhellach. Mae'r goresgynnwr ymosodol hwn yn lledaenu'n gyflym ac yn ffurfio dryslwyni trwchus sy'n rhwystro golau'r haul rhag cyrraedd llawr y goedwig. Mae hyn yn golygu nad yw planhigion eraill, gan gynnwys rhywogaethau brodorol, yn gallu tyfu mewn ardaloedd a ddominyddir gan y Rhododendron ponticum, ac mae’r hyn a ddylai fod yn goedwig ysgafn, wyrdd llawn bywyd, yn troi’n ardaloedd brown tywyll heb fywyd.
Yn ogystal â hyn, gall Rhododendron ponticum hefyd ryddhau tocsinau i'r pridd, sy'n ei gwneud hi'n anoddach i blanhigion eraill dyfu, ac mae eu mêl yn wenwynig i'r Wenynen Fêl Ewropeaidd. Gall hyn gael effaith rhaeadru ar yr ecosystem gyfan, gan niweidio rhywogaethau anifeiliaid brodorol sy'n dibynnu ar y goedwig i oroesi. Mae cadwraeth ein coedwigoedd glaw tymherus yn hanfodol i warchod natur a'r myrdd o ffurfiau bywyd y mae'n eu cynnal. Yn anffodus, mae rhywogaethau ymledol fel Rhododendron ponticum yn fygythiad mawr i’r ecosystemau bregus hyn.
Os na chaiff ei atal, gall presenoldeb rhywogaethau ymledol arwain at ddirywiad mewn bioamrywiaeth, llai o weithrediad ecosystemau, a chynnydd mewn erydiad pridd a llifogydd. Mae’n hollbwysig inni gymryd camau i reoli’r rhywogaethau ymledol hyn ac adfer ein coedwigoedd glaw i’w cyflwr naturiol. Dyma le mae ymdrechion cadwraeth ac amddiffyn yn dod i mewn - trwy fynd ati i ddileu rhywogaethau ymledol fel Rhododendron ponticum ac ailblannu gyda rhywogaethau brodorol, gallwn adfer ein coedwigoedd glaw i gyflwr iachach a'u diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Lluniau llithrydd: Rhododendron ponticum yn ei flodyn / Pigyn y Gôg by Annette Meyer @Pixabay / Himalayan balsam (c) GBINNS
Beth ydym ni'n ei wneud yn y frwydr i adfer ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd?
Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Nod y prosiect gwerth £7.5 miliwn yw gwella statws cadwraethol coedwigoedd derw hynafol Cymru - cynefin arbennig iawn gyda chyfoeth o fwsoglau a chennau prin sydd o werth rhyngwladol pwysig. Wedi’i ariannu yn bennaf gan Raglen Natur a Bioamrywiaeth LIFE y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru y nod yw mynd i’r afael â nifer o’r bygythiadau sy’n wynebu’r cynefin hwn - megis rhywogaethau estron ymledol, diffyg pori priodol a gormodedd o goed conwydd.
Rheoli rhywogaethau ymledol fel Rhododendron ponticum
Un o brif amcanion y prosiect yw gwaredu Rhododendron ponticum o 5 Ardal Cadwraeth Arbennig, gan gynnwys Eryri, Coedwigoedd derw Meirionnydd, Coed Cwm Einion, Coetiroedd Cwm Elan a Chwm Doethie - Mynydd Mallaen. Ers blynyddoedd bellach mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi bod yn weithgar yn ceisio rheoli’r pla yn rhannau o Eryri, a bydd y prosiect hwn yn siŵr o roi hwb i’r gwaith hwn.
Pori cadwraethol
Bydd y prosiect hefyd yn defnyddio brîd o wartheg gwydn er mwyn gwella cyflwr rhai o’r coetiroedd - wedi’r cyfan, mae gan anifeiliaid gwyllt neu dda byw hanes hir o bori’r coedlannau hyn. Mae’n bwysig taro’r cydbwysedd cywir: gormod o bori a bydd coed yn cael eu difrodi a diffyg glasbrennau ifanc: dim digon a bydd mieri yn tagu unrhyw dyfiant arall. Gyda lefelau cywir o bori bydd yn bosib cynnal y cyfoeth o is-blanhigion a’r holl fywyd gwyllt cysylltiedig.
Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS)
Byddwn hefyd yn gweithio ar safleoedd PAWS lle mae llawer o'r rhywogaethau coed a welir yn gyffredin yn cael eu hystyried yn anfrodorol i’r cynefinoedd penodol hyn. Mae hyn yn cynnwys yr holl rywogaethau conwydd masnachol, yn ogystal â rhai coed collddail megis sycamorwydden (Acer pseudoplatanus) a ffawydd (Fagus sylvatica). Gall gwaith adfer gofalus a graddol ddiogelu a gwella olion y coetir hynafol gwreiddiol, gan ei symud tuag at gyflwr mwy naturiol wedi’i adfywio a’i drawsnewid yn araf yn ôl yn gynefin Coedwig Law Geltaidd.
Beth yw enghreifftiau o gael gwared ar rywogaethau ymledol yn llwyddiannus?
Un o rywogaethau ymledol mwyaf diarhebol y DU yw'r Rhododendron ponticum, planhigyn hardd ond dinistriol a all gymryd drosodd ecosystemau cyfan yn gyflym, gan ddisodli llystyfiant brodorol a bygwth bioamrywiaeth. Yn ffodus, mae ymdrechion llwyddiannus wedi bod i gael gwared arno. Un achos o’r fath yw’r prosiect a gynhaliwyd ym Mharc Cenedlaethol Killarney yn Iwerddon, lle cafodd y planhigyn ei dorri i lawr a thynnu ei wreiddiau, ynghyd â defnyddio chwynladdwyr a fonitro gofalus i atal aildyfiant. Roedd y canlyniadau’n rhyfeddol, gyda’r ecosystem yn adfer ac yn ffynnu gyda phlanhigion a bywyd gwyllt brodorol.
Llwyddiant arall ar reoli rhywogaethau ymledol oedd rhaglen dileu Mincod ym Mharc Cenedlaethol y Cairngorms. Daeth y prosiect yn rhaglen ddileu rhywogaethau tir mawr fwyaf y byd, ac roedd yn cynnwys cannoedd o Wyddoniaeth Dinasyddion yn gwirfoddoli eu hamser. Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddata a gasglwyd gan wirfoddolwyr cadwraeth i ragfynegi lle'r oedd mincod yn debygol o ail-gytrefu a thargedwyd yr ardaloedd hyn gyda thrapiau ecolegol a ddefnyddiwyd i dynnu'r minc yn drugarog o ardaloedd helaeth o dir. Mewn 3 blynedd, roedd y prosiect wedi tynnu 376 minc o 10570 km2, a chymerodd 186 o wirfoddolwyr ran.
Helpodd y prosiect i sicrhau dyfodol y llygoden bengron y dŵr, ac mae’r prosiect bellach yn cael ei ddefnyddio fel templed ar gyfer rheoli mincod ymledol mewn mentrau eraill yn yr Alban a hefyd ledled y byd.
Yn olaf, bu arbrawf diddorol gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi a Afonydd ar drin Jac y Neidiwr ym Mhenarth Feeder, trwy garthu’r ddyfrffordd yn gyntaf, gan osod y silt mewn haen ar ben pilen hesian uwchben yr Hb, gan weithredu fel atalydd chwyn! Gallwch weld llwyddiant hyn ar eu tudalen we: Treial Jac y Neidiwr yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd
Mae'r llwyddiannau hyn yn dangos ei bod hi'n bosibl rheoli a chael gwared ar rywogaethau ymledol, ond mae angen cynllunio gofalus, arbenigedd, dyfalbarhad a llawer iawn o amynedd.
Sut gallwch chi helpu…
Un o'r ffyrdd pwysicaf y gallwch chi helpu yw trwy addysg; ohonom ein hunain ac eraill, ar effeithiau niweidiol rhywogaethau ymledol. Mae newid y naratif yn cymryd amser. Y fwyaf o bobl sy'n ymwybodol o'r difrod y mae rhywogaethau ymledol yn ei achosi, y mwyaf tebygol y maent o gymryd camau i atal eu lledaeniad.
Fel aelodau o’r gymuned, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i helpu i atal lledaeniad rhywogaethau ymledol. Dyma’r ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan:
Doeth â Phlanhigion
Os ydych chi'n arddwr neu'n plannu mewn mannau cyhoeddus, byddwch yn ofalus ynghylch y rhywogaeth a ddewiswch. Osgowch blanhigion anfrodorol a chwiliwch am ddewisiadau lleol eraill a fydd yn ffynnu yn yr amgylchedd heb gymryd drosodd. Mae gwrych brodorol amrywiol yn y gwanwyn yn olygfa i'w weld!
Bioddiogelwch
Os ydych yn gweithio neu'n treulio amser mewn ardal risg uchel, byddwch yn ymwybodol o'r camau y gallwch eu cymryd i osgoi lledaenu rhywogaethau ymledol. Gallai hyn gynnwys golchi'ch offer, glanhau'ch esgidiau, neu osgoi rhai mannau yn gyfan gwbl.
Rhybydd Rhywogaethau
Byddwch yn ymwybodol o’r rhywogaethau sydd ar yr rhestr hon - mae rhai yn Rhywogaethau sydd ddim eto yn drafferthus i Brydain, ond mae’r potential gennynt I greu niwed mawr os yw'n cael y cyfle i sefydlu. Mae’r Gacynen Asia yn un o’r Rhywogaethau ar y rhestr ar hyn o bryd.
Rhoi Gwybod am Rywogaethau Ymledol
Os byddwch yn gweld rhywogaeth ymledol bosibl yn eich ardal leol, rhowch wybod i'r awdurdodau perthnasol cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer gweithredu prydlon a gallai helpu i atal difrod pellach.
Dilynwch ni
Ar ein cyfryngau cymdeithasol, rhannwch ein gwefan a lledaenwch y gair! Dywedwch wrth eich cydweithwyr, ffrindiau a theulu am y gwaith gwerthfawr rydym yn ei wneud yn erbyn y bygythiadau Rhywogaethau Ymledol i'n Coedwigoedd Glaw Celtaidd!
Drwy gymryd y camau syml hyn, gallwn ni i gyd helpu i ddiogelu ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd a chynefinoedd naturiol eraill. Felly, gadewch inni wneud ein rhan a gwneud y gwahaniaeth heddiw!
Footer
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Ffôn: 01766 770274
Ebost: post@celticrainforests.wales
Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF
© 2019 - 2025 Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru. Cedwir pob hawl
Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr